Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-22

Llongyfarchiadau

Dwi ddim yn un sy'n cefnogi enillydd yn aml iawn, ond ers misoedd dwi wedi bod yn dweud fod nofel ddiweddaraf Caryl Lewis yn mynd i ennill gwobr Llyfr y flwyddyn. Wel, dyna yn union beth wnaeth ddigwydd neithiwr. Y nofel, wrth gwrs, yw'r enwog Martha, Jac a Shanco. Nofel yr ydyw i wedi dweud yn y gorffennol y bydd yn cael ei chyfri yn un o nofelau gorau'r Gymraeg. Mae hynny'n siŵr o ddigwydd. Maen nhw'n dweud am Dubliners James Joyce y buasai'n bosib ail-greu Dulyn ei oes ef dim ond ar sail y casgliad hwnnw o straeon byrion - sy'n cynnwys yr enwog 'The dead'. Wel, dwi'n mentro i ddweud petai pob fferm deuluol yng nghefn gwlad Ceredigion yn diflannu 'fory yn fe fuasai'n bosib eu hail-greu yn berffaith ar sail y nofel hon! Wedi ysgrifennu rhywbeth mor wych bydd 'na bwysau ar yr awdur nawr wrth iddi wynebu ei nofel nesaf. Dwi'n siŵr y gwnaiff hi ateb yr her yn iawn.