Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-22

Rownd mewn cylchoedd

Powlenaid o olifau, Yr Orendy, Stryd y Farchnad, AberystwythWeithiau mae'r blog yn medru fy ngwneud yn ben ysgafn neu roi bendro imi, gan nad wyf yn rhy siŵr o pwy sy'n gwybod beth amdanaf fi. Dwi ddim yn datgelu mwy nag sydd eisiau, ac eto i gyd mae fel petai pobol yn dysgu llawer mwy amdanaf nag oeddwn wedi'i ddisgwyl. Weithiau dwi ddim yn gwybod a ydw i'n gwstraffu fy amser yn siarad gyda neb bellach gan fod fy hanes yn mynd rown a rownd mewn cylchoedd.

'Ta beth, wedi'r gwaith heno, dyma fentro 'nôl i'r Orendy, Stryd y Farchnad am y n-fed tro ers i'r lle agor ychydig dros bythefnos yn ôl. Mae'r ffaith ei fod yn agor ar ôl gwaith ar gyfer diod dawel a gwâr yn arbennig iawn. Heno fe ddaeth DJP gyda mi a'r person cyntaf inni gwrdd yno oedd MS. Roedd hi wedi dwli ar y lle hefyd. Cyn bo hir dyma DML yn ymuno â ni ac yn y diwedd CGw ac RO. Trafod y "Llyfrgell" am dipyn cyn dechrau sôn am y peth hyn a'r peth arall. Dyma holi MS am safle'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2006. Dywedodd hi ei bod yn credu fod y maes yn Felindre - yn bell o ganol y ddinas, ond yn agos i'r draffordd, &c. Ble oedd y lle gorau i aros? Beth am Benlle'r-gaer, neu Dreforus, neu Bontardawr. Fe gawn ni weld.

Doeddwn i ddim yn medru aros drwy'r nos am fod gennyf gyfarfod o bwyllgor Plaid Cymru yn y Swyddfa am 7.30pm. Wedi bod yno adref â fi yng nghwmni IBJ a galw i fyny gyda hwy i glywed TLlJ yn darllen Saesneg ac i gael cwpanaid hyfryd o de.

I weld mwy o luniau o'r Orendy.