Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-06-21

Mae'r Gymraeg yn fyw!

Arwydd Un o'r beichiau 'na mewn bywyd y mae'n rhaid imi gario yw'r ffaith imi gael fy ngeni yn 1960, flwyddyn neu ddwy cyn i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith Tynged yr iaith. O ganlyniad mae'r Gymraeg wedi bod yn marw bron â bod o'r funud ges i fy ngeni. Y Gymraeg yn marw wrth i finnau ddechrau byw! Nid oes unrhyw amheuaeth fod Saunders yn gywir yn hynny o beth, yn anffodus. Mae pob arwydd ac ystadegyn a chanfyddiad yn ategu'r un neges fel arfer. Er, wrth gwrs, fod na arwyddion a allai roi awgrym fo pethau'n newid, dwi'n gwybod yn iawn taw arwyddion anghywir ac chwbl annibynadwy ydynt fel arfer.

Arwydd 'Ta beth dwi wedi gweld mwy o 'arwyddion' annibynadwy. Dyw e ddim yn golygu dim byd ond mae wedi rhoi rhyw sbonc yn fy ysbryd - os yw hynny'n bosib. Yn y Stryd Newydd, nepell (neu, nid nepell) o'r tŷ mae rhywun wedi marcio ble mae'r pibellau dŵr a nwy yn rhedeg, ac mae hynny wedi'i wneud yn Gymraeg! Efallai fod pethau o'r fath yn digwydd ym Mhwllheli a Chaernarfon a Phorthmadog bob dydd o'r flwyddyn a does neb yn sylwi dim arno, ond fan hyn yn Aberystwyth dwi'n credu ei fod yn rhywbeth i'w ddathlu a'i werthfawrogi. Dyw pethau fel hyn ddim yn digwydd bob dydd yng Ngheredigion bellach, yn arbennig felly nid yn Aberystwyth.

Arwydd Dwi wedi bod yn meddwl am yn hir sut fod hyn wedi digwydd. Dwi'n methu'n deg â chredu taw polisi'r cwmnïau eu hunain yw hyn. Felly mae'n rhaid fod 'na weithiwr sydd wedi penderfynu drosto'i hun i roi urddas i'r heniaith wrth ei defnyddio i wneud y gwaith hollbwysig hyn. Yn y byd bach rhyfedd dwi'n byw ynddo dwi'n deall hynny'n iawn. Mae fy nghalon yn neidio o lawenydd bob tro y gwelaf "Dim mynediad" wedi'i beintio mewn paent gwyn ar y ffordd! Felly rydych chi'n deall yn iawn effaith yr arwyddion hyn yn y Stryd Newydd arna i. Dim ond cynyddu fy mwynhad wnaeth y ffaith fod y peintiwr gofio i osod acen grom ar yr 'w' yn 'Dŵr'.