Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-14

Bwyd da a chwmni difyr - noson yng nghwmni Elwyn a Dr MWR

Wedi diwrnod o gynhadledda roedd meddwl am dreulio noson gyfan yn trafod gwleidyddiaeth a dim ond gwleidyddiaeth yng nghwmni CD a LlD yn medru ymddangos yn ormod o bwdin. Ond ni chafodd y ci hwn ei dagu. I ddweud y gwir roedd hi'n noson wych, ac fe drafodwyd cymaint o bynciau diddorol – gwleidydiaeth, wrth gwrs; crefydd, wrth gwrs; llenyddiaeth, wrth gwrs – a'r cyfan yr un mor ddidorol â'i gilydd.

Efallai y darfodaeth fwyaf diddorol oedd ar lenyddiaeth ac ar ddwy nofel gyfoes, sef Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis a Walia Wigli gan Dafydd Huws. Roedd pawb oedd wedi darllen nofel Caryl Lewis yn gytùn ei bod yn wych, ac un o nofelau gorau'r Gymraeg. Efallai ei bod braidd yn gynnar i wneud asesiad o'r fath ond dwi'n siŵr y caf fy mhrofi'n gywir.

Ac ymlaen â'r trafod dros ginio - salad scalopiau a a bacwn gyda gwisg o finegr balsamaidd i ddechrau, yna brest cyw iar wedi'i lapio mewn ham a dail bresych, a chacen wy gyda hufen a lemwn i bwdin. Dwi'n dwli ar scalopiau ac felly roeddwn i wrth fy modd o'r cychwyn cyntaf. Cefais noson wrth fy modd. Diolch Elwyn a Dr MWR!