
Fan'ny roedd 'na dyrfa dda yn ein disgwyl. Ac fel arfer roedd 'na hwyliau da yno gyda phawb yn cystadlu gyda brwdfrydedd ac felly yn gwneud gwaith y cwisfeistr yn ddigon hawdd. Chwe rownd i gyd. Gan gynnwys rownd ar ddiarhebion. Beth am roi tro arni? Pa ddiarhebion yw'r rhain?
1. N A R M A
2. G Y G Y F E Ch
3. N A Y P M
4. Y Ng S M C B
5. A Dd W A Dd F
6. C G N C W A M
7. M G M D
8. A O U A H I U
9. Rh C C C
10. T G N A
11. G A M Ll N D M Ll
12. G A A D
13. T E T A
14. H N Dd E H
15. T M N Th E G
Dwi'n credu imi fod yn ddoeth iawn i gynllunio'r cwis fel bod fy mos newydd a'i dîm yn ennill. Wedi'r cwis cyfle i siarad cyn mynd 'nôl i'r dref. Roeddwn i wedi bwriadu cymryd bws yn ôl, ond yn y diwedd dyma FJ yn cynnig rhoi lifft imi. Ond fel roedd hi'n digwydd roedd yn rhaid i EG fynd i mewn ac fe gefais gyfle am sgwrs gyda hi. Cyfle i longyfarch y Lolfa ar gael cynifer o'u llyfrau ar restr fer hir Llyfr y Flwyddyn a drefnir gan Academi. Fe wnes i fentro dweud fy mod i'n meddwl fod nofel Caryl Lewis, Martha, Jac a Sianco yn haeddu ennill, er bod 'na lyfrau eraill diddorol iawn ar y rhestr.