JOSEPH HARRIS (‘Gomer’; 1773-1825), gweinidog y Bedyddwyr yn yr Heol Gefn, Abertawe; g. yn fab i hwsmon yn Llantydewi ger Casblaidd, sir Benfro, a bedyddiwyd ef yn Llangloffan tua 1792/3. Wedi ei gynhesu yn niwygiad Casmael yn 1795, dechreuodd bregethu, a chyhoeddi Casgliad o Hymnau yn 1796 at y rhai a gyhoeddasai yn 1793. Priododd Martha Symons, Casnewydd-Bach, a daeth yn 1801 i'r Heol Gefn, a mynd am bedwar mis i athrofa Bryste. Cythryblodd Arminiaeth yr Heol Gefn yn 1800, a blinid yr Hen Dŷ Cwrdd gan Undodiaeth; cyhoeddodd yntau Bwyall Crist yng Nghoed Anghrist yn 1804. Gadawodd ei Traethawd ar Briodol Dduwdod ein Harglwydd Iesu Crist, 1816-7, ei ddelw ar ddiwinyddiaeth llawer. Enillodd gymeradwyaeth Drindodiaid pob cyfundeb ymron. Cadwodd draddodiad pregethu'r Diwygwyr yn fyw. Llafuriodd yn eiddgar dros y Gymraeg a chanu'r cysegr. Cyhoeddodd Casgliad o Hymnau yn 1821, ag ynddo lawer o'r eiddo'i hun, a'u gwerthu gyda phethau eraill yn ei siop lyfrau. Cadwai ysgol-ddydd. Gellir ei alw'n dad y newyddiadur Cymraeg. Ei Seren Gomer, 1814-5, oedd yr wythnosolyn cwbl Gymraeg cyntaf. Er i'r ymgymeriad ei golledu'n fawr, ac er iddo fethu gyda hwn fel gyda'i Greal y Bedyddwyr, 1817, a'r Drysorfa Efengylaidd, 1806, y ceisiodd ef a Titus Lewis ei redeg, fe lwyddodd ei Seren Gomer bythefnosol (1818). Cyhoeddodd hefyd Yr Anghyffelyb Broffeswr (cyfieithiad), 1802, Y Beibl Dwyieithawg, Esboniad Dr. J. Gill ar y Testament Newydd, wedi ei drosi yn Gymraeg ganddo ef a Thitus Lewis a Christmas Evans, a Cofiant Ieuan Ddu, ei fab. Bu f. 10 Awst 1825, ychydig dros 52 mlwydd oed.Y lle nesaf inni ymweld ag ef oedd Casnewydd-bach ac ar y grîn yn y pentref bach hwnnw saif y gofeb i'r môr-leidr Bartholemew Roberts, neu Barti Ddu. Roedd yntau yn haeddu ei enwogrwydd a'i gofeb - dyma ichi fôr-ledir oedd yn credu y dylai ei ddynion fod ag yswiriant rhag ofn iddynt gael ei anafu, roedd yn llwyrymorthodwr a mor hoff o gerddoriaeth fel y cyflogai gerddorion ar ei long. Mae ei hanes yn werth ei ddarllen.
Wedi bwrw golwg dros eglwys y plwyf, Eglwys S. Pedr, fe aethom ar ein ffordd unwaith eto. Y pentref nesaf inni gyrraedd oedd Cas-mael. Roedd yn rhaid aros yma hefyd ar gyfer cofeb arall, sef cofeb Dyfed (Evan Rees, 1850-1923). Roedd Dyfed yn bregethwr, bardd ac archdderwydd. Prin naw mis oedd ei oed pan adawodd y teulu i fyw yn Aberdâr. Bu'n gweithio fel glöwr cyn mynd yn weinidog. Ef oedd ennillydd cadair Eisteddfod Chicago 1893 am awdl ar y testun 'Iesu o Nasareth' a bu'n archdderwydd am yn agos i chwarter canrif. Wedi olrhain ei lwyddiant nid yw'n rhyfedd fod pobl Cas-mael wedi penderfynu ei gofio gyda chofeb sy'n herio un R. Williams Parry o ran godidowgrwydd - ond mae honno yn ennill ar uchder, ond mae cofeb Dyfed yn ennill ar arwynebedd. Mae'r gofeb yn llenwi canol y pentref i gyd ac mae'n cynnwys rhodfeydd seremonïol sy'n arwain i fyny at y garreg goffa ei hun. Dyma ichi gofeb sydd wedi'i ysbrydoli gan rai o gofebau rhyfel rhyfeddol Fflandrys; efallani nad yw hi cweit cymaint â'r Menenpoort yn Ieper, ond mae'n gweithio tuag at hynny!
Roedd ein taith yn dod i ben. Yn ôl â ni heibio i chwarel Rosbwsh a thrwy Fynachlog-ddu i Aberteifi. Ac yr oedd yn rhaid mynd heibio i gofeb Waldo ar y ffordd!
Lluniau o gofeb Dyfed, Cas-mael.
Rhagor o luniau o'r daith yn ôl trwy ganol y sir.
Yr holl luniau o'n taith i Dyddewi a Sir Benfro am y dydd.
Tagiau Technorati: Gwyliau | Teithio | Gomer (1773-1825) | Barti Ddu | Dyfed.