Roedd Mrs Davies, Tonwen Davies, yn berson arbennig iawn. Roedd hi'n dod o ardal Capel Iwan yn wreiddiol. Er ein bod yn ei galw'n Mrs Davies doeddwn ni erioed wedi gweld Mr Davies a dim ond flynyddoedd yn ddiweddarach y cefais wybod bod ei gŵr, dyn lleol, wedi lladd ei hun o fewn ychydig fisoedd i'w priodi. Roedd hi'n byw gyda Mr a Mrs Lewis, roedd yntau (E. T. Lewis) yn gyn-bennaeth yr ysgol ac roedd hi wedi lodjo gyda nhw pan ddaeth hi i weithio yn yr ysgol yn wreiddiol. Nid yn unig yr oedd hi'n athrawes arna i yn yr ysgol, ond hi hefyd oedd fy athrawes yn yr ysgol Sul, a hi hefyd oedd arweinydd adran yr Urdd! Yn ddiweddarach cefais wybod ei bod yn aelod o Blaid Cymru cyn i hynny fod yn ffasiynol ac roedd ei chariad at Gymru yn amlwg yn ei gweithgarwch ac yn ei gwersi. Yn ddiweddarach hefyd y dysgais taw hi oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Amddiffyn a sefydlwyd i wrthsefyll bwriad y Weinyddiaeth Ryfel i droi ardal eang o Fynachlog-ddu yn faes tanio milwrol. Roedd yr hanes hwn yn cael ei adrodd a'i ailadrodd yn gyson yn ystod fy mhlentyndod. Dyma oedd yn rhoi siâp i lawer o'r ffordd yr oeddem yn edrych ar y byd, sef ein bod 'ni' ym Mynachlog-ddu a Phreseli wedi trechu'r wladwriaeth Brydeinig, a hynny wrth 'wrthryfela' yn union yr un modd ag y gwnaeth Merched Beca, ac eto i gyd wrth fod yn heddychwyr o argyhoeddiad! Rhaid imi gyfaddef taw dim ond ar ôl imi adael Ysgol Mynachlog-ddu y darllenais gerdd Waldo, 'Preseli', a ysbrydolwyd gan y digwyddiad.
PRESELIDwi ddim am ymddiheuro am roi'r gerdd yn ei chrynswth oherwydd dyna'r dylanwad mawr arall ar fy mywyd fel plentyn, Waldo Williams. Yn fy arddegau fe fues i'n aelod o'r pwyllgor oedd yn gyfrifiol am godi'r gofeb iddo a hynny ar adeg pan roeddwn i'n sensitif iawn i'r syniadau yr oedd yntau yn ei coleddu ac yn rhoi llafar iddyn nhw yn ei waith. Dim rhyfedd fy mod fel ydw i!
Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Cam Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.
A’m llawr o’r Witwg i’r Wern ac i lawr i’r Efail
Lle tasgodd y gwreichion sydd yn hŷn na harn.
Ac ar glosydd, ar aelwydydd fy mhobl –
Hil y gwynt a’r glaw a’r niwl a’r gelaets a’r grug,
Yn ymgodymu â daear ac wybren ac yn cario
Ac yn estyn yr haul i’r plant, o’u plyg.
Cof ac arwydd, medel ar lethr eu cymydog.
Pedair gwanaf o’r ceirch yn cwympo i’w cais,
Ac un cwrs cyflym, ac wrth laesu eu cefnau
Chwarddiad cawraidd i’r cwmwl, un llef pedwar llais.
Fy Nghymru, a bro brawdoliaeth, fy nghri, fy nghrefydd,
Unig falm i fyd, ei chenhadaeth, ei her,
Perl yr anfeidrol awr yn wystl gan amser,
Gobaith yr yrfa faith ar y drofa fer.
Hon oedd fy ffenestr, y cynaeafu a’r cneifio.
Mi welais drefn yn fy mhalas draw.
Mae rhu, mae rhaib drwy’r fforest ddiffenestr.
Cadw y mur rhag y bwystfil, cadw y ffynnon rhag y baw.
Tagiau Technorati: Gwyliau | Teithio | Atgofion | Waldo Williams | Mynachlog-ddu.