Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-24

Calan Mai (5)

TyddewiDwi'n dal i geisio gorffen hanes taith DJP a finnau i Sir Benfro. Wedi bod ar Ben-caer roedd yr amser yn mynd yn ei flaen ac roedd hi'n bryd inni gyfeirio ein holwynion tuag at Dyddewi. Peth anodd yw esbonio fy agwedd tuag at y lle - ar un llaw dwi'n gweld y lle fel man sy'n eiddo i fi, ond wedyn yn sylweddoli ei fod yn eiddo i bawb arall hefyd. Mae hynny'n arbennig o wir ar adeg gwyliau. Efallai ein bod yn ffodus ein bod wedi dod ar ymweliad ychydig wythnosau wedi gwyliau'r Pasg a bod llawer o'r ymwelwyr heb ddod yn ôl eto. Dwi ddim yn meindio rhannu Tyddewi gyda phobl eraill, dim ond eu bod nhw'n deall pam fod y lle mor arbennig; dyna pa mor drahaus ydw i, ac wrth ystyried beth dwi newydd ei ddweud dwi'n cywilyddio. Does dim hawl gen i ddweud wrth neb arall sut i 'werthfawrogi' Tyddewi. Fy hoff amser i yw'r gaeaf pan fo siawns i glywed ychydig o Gymraeg ar y strydoedd ac yn y siopau. Fe gerddodd DJP i lawr i'r eglwys gadeiriol (ac nid 'cadeirlan'!) a 'nôl lan; dwi'n ofni imi eistedd ar y sgwâr yng nghysgod y groes hynafol, y fan lle cychwynnodd Waldo Williams ar ei daith o gwmpas Sir Benfro pan yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 1959. Dyna'r tro cyntaf i fy mam bleidleisio i Blaid Cymru ac fe fyddai'n adrodd y stori honno gyda balchder. A dyna fi 'nôl yn hel atgofion unwaith eto ac ryw hanner hiraethu am yr hyn nad oes pwynt hiraethu amdano.

Capel Trefgarn OwenDaeth DJP yn ôl wedi cael ei ffics o 'dangnefedd Dewi' a phenderfynu ei bod yn rhaid inni feddwl cychwyn am adref. Er mwyn gwneud i'n taith bara fe addewais ei arawain ar hyd heolydd culion ond hynod y sir. Fe aeth ein taith adref â ni heibio i Laneilfyw, fferm sydd hefyd yn enw ar blwyf bach ger Solfach. Mae'r eglwys yn adfail ers blynyddoedd, ond mae'n cadw ei hud wrth fod â'r enw Saesneg rhyfeddol St. Elvis. Yna yn bellach ymlaen dyma fynd heibio i ganolfan filwrol Breudeth, yr hen USNAVFAC Brawdy, canolfan glustfeinio yr Americanwyr ar draffig tanfod yng ngogledd Môr Iwerydd. Ac yna heibio i gapel Trefgarn Owen lle dwi'n cofio bod mewn gwasanaeth a'r awyrennau milwrol yn hedfan yn isel yn ôl ac ymlaen fel nad oedd hi'n bosib clywed beth oedd yn digwydd bron.

Rhagor o luniau o Dyddewi a'r ardal.

Tagiau Technorati: | | .