Petai Enver Hoxha yn Gymro...
Ar sail tysiolaeth y gofeb i R. Williams Parry yn Nhalysarn dwi'n credu bod lle gennym ddiolch nad ydym wedi cael llywodraeth yn hybu cwlt personoliaeth yng Nghymru yn null Albania. Heblaw wrth gwrs eich bod yn cyfrif cwlt personolaeth aelodau'r teulu brenhinol, yr ydym ni wedi meddwi ar hynny, wrth gwrs - Ysbyty y Tywysog Siarl, Merthyr Tudful; Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr; Ysbyty y Tywysog Phillip, Llanelli (da iawn bawb sy'n galw'r lle yn Ysbyty Bryngwyn), Ysbyty Duges Cernyw, Llanllebynnag; Ysbyty y Corgis Brenhinol, Cwm-sgwt. Ac yna mae'r holl gynghorwyr Llafur yng nghymoedd y de gyda'r canolfannau dydd wedi'u henwi er anrhydedd iddyn nhw i gyd.
Efallai yr hyn ddylen i ddweud yw diolch byth nad oes mwy o gwlt personoliaeth yng Nghymru gan fod cofeb R. Williams Parry yn Nhalysarn yn dangos beth allai ddigwydd. Roeddwn i wedi gweld y gofeb o'r blaen, ond doedd hi ddim byd fel yr oeddwn yn ei chofio - yr hyn a wnaeth fy nharo yn fwy na dim oedd ei maint hi. Mae'r rhan fwyaf yng Nghymru um gorfod gwneud y tro gyda llechen o blac ar wal eu cartref. Mae'n wir fod Dewi Emrys a Waldo Williams wedi cael bobo faen hir yn gofebau, ond mae cofeb RWP yn perthyn yn nes o ran maint a phwysigrwydd i'r pyramidiau yr Aifft, wal fawr China, neu Bantheon Rhufain nag yw hi i gofeb arferol llenor o Gymro neu Gymraes. A dyna sy'n gwneud imi feddwl beth fyddai digwydd petai Enver Hoxha neu Stalin wedi dod o'r Groeslon, beth fyddai maint y cofebau neu'r cerfluniau fuaswn ni wedi'u codi i ddathlu eu galluoedd a'u doethineb hwy.
Wrth gwrs fe ellid dehongli'r peth fel tystiolaeth o'r parch i'r bardd o fewn i'r gymdeithas Gymraeg a'r parch penodol a roir iddo yn Nyffryn Nantlle.
Rhagor o luniau o gofeb R. Williams Parry, Talysarn.
Tagiau Technorati: Cofebau | Beirdd | Dyffryn Nantlle.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.