Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-27

Terfysg a phrotest

Hywel James a DogfaelOherwydd bod protestiadau torfol a rhai gwirioneddol ddifrifol wedi bod yn brin dros y blynyddoedd diwethaf mae fy ymwybyddiaeth i o beth sydd wedi bod yn digwydd yn gyfreithiol i rai o'n hawliau sylfaenol wedi bod yn brin. Wedi'r cyfan rydw i'n heddychwr sy'n credu bod bygwth pobol yn anghywir. Ond erbyn hyn mae heddychwyr yn gymaint o fygythiad i'r drefn fel bod deddfau terfysgol yn cael eu defnyddio i'w rheoli - dyna o leia oedd profiad yr henwr Walter Wolfgang pan fu mor anfoesgar â heclo Jack Straw yng nghynhadledd y Blaid Lafur llynedd.

Nos Wener diwethaf, fel rhan o benwythnos cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bues i'n cadeirio cyfarfod ar y deddfau terfysgaeth sydd wedi'u pasio a'r mesur newydd sy'n dal i wneud ei ffordd drwy'r senedd yn Llundain a’u heffeithiau ar fudiadau Protest. Y siaradwr gwadd oedd Hywel James, cyfreithiwr o Gaerdydd, a ddaeth i amlygrwydd mawr yn dilyn y gwrandawiad Clywch! pan roedd yn cynrychioli rhai o'r cyn-ddisgyblion ysgol yn yr achos. Ond mae Hywel James hefyd wedi bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y gorffennol ac wedi cynrychioli aelodau o'r Gymdeithas mewn nifer o achosion.

Y dorfYr hyn a wnaeth ef oedd edrych ar y deddfau yn ymwneud â therfysgaeth sydd wedi'u pasio ers 1974 gan sylwi yn raddol sut mae'r wladwriaeth yn ceisio rheoli a chau allan cymaint o weithgarwch terfysgol yn y fath fodd fel ei fod yn effeithio ar hawliau grwpiau eraill nad oes ganddynt fwriadau terfysgol yn y byd. Edrychodd yn ofalus ar y diffiniad o derfysgaeth a geir yn adran 1 Deddf Terfysgaeth 2000. Yno fe ddiffinir "terfysgaeth" fel gweithredu neu fygwth gweithredu sy'n bennarf er mwyn dylanwadu ar y llywodraeth er mwyn hyrwyddo achos gwleidyddol. Ymhlith y gweithredu sy'n cael ei ystyried fel un terfysgol mae "difrod difrifol i eiddo". Ceisiodd Hywel James ddangos y gallai diffiniad o'r fath fod wedi'i ddefnyddio i ddiffinio nifer o weithredoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y gorffennol fel rhai terfysgol, ac felly o ddilyn yr un dulliau o weithredu heddiw yn agored i'w herlyn o dan y ddeddf hon. Buasasi gwneud hynny yn golygu y gellid atafaelu holl eiddo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Nawr mae hyn yn swnio'n anhygoel ond y ddeddf hon a ddefnyddiwyd i arestio Walter Wolfgang yn Brighton a phrotestwyr heddwch. Mae'r ddeddf hefyd mewn rhai achosion yn rhoi'r pwysau ar y rhai sy'n cael eu cyhuddo i brofi eu bod yn ddieuog, yn hytrach na bod yr erlyniad yn gorfod profi eu heuogrwydd.

Nid oedd pethau'n gwella dim o dan y ddeddfau terfysgaeth eraill a basiwyd ers 2000 ac yn bendant nid oedd hynny'n wir o ran y mesur sydd ar ei ffordd drwy'r senedd ar hyn o bryd. Efallai taw dim ond grwpiau ar ymylon sy'n cael eu heffeithio ar hyn o bryd ond beth fydd yr ymateb pan fydd y newidiadau hyn yn cyffwrdd â bywydau pobl pob dydd wrth iddyn nhw ymgyrchu yn erbyn pob mathau o bethau - adeiladu tai diangen mewn cymuned, codi gorsafoedd ynni niwclear, codi ffordd newydd trwy gefn gwlad... Unwaith i brotestio droi'n niwsans bydd gan y llywodraeth stôr o ystrywiau bellach i roi taw arnyn nhw.

Rhagor o luniau o'r noson.

Tagiau Technorati: | | .