
Nid yn aml iawn y bydd yr Eglwys yng Ngymru yn gwneud y newyddion, ac yn sicr nid yr ochr Gymraeg iddi. Ond mae'r Llan wedi newid popeth wrth gyhoeddi un o'r cartwnau o Ddenmarc. Mae'n sefyllfa anodd iawn. Dwi wedi dweud o'r blaen fy mod i'n credu yn yr hawl i wneud hynny, ond nid yw bod â'r hawl i wneud hynny o angheraid yn golygu ein bod yn gwneud. Mae'r sefyllfa yn fwy anodd wrth i bapur enwadol eu cyhoeddi oherwydd ni ddylai neb fynd allan o'i ffordd i annog neu achosi gwrthdaro rhwng crefyddwyr. Wrth ddarllen y rhifyn o'r Llan lle cyhoeddwyd y cartŵn nid oedd hi'n ymddangos fod unrhyw fwriad i wneud hynny ac efallai dyna pam fod ymddiheuriadau yr Archesgob ac Esgob Tyddewi wedi ymddangos yn anghymesur â'r weithred. Dwi'n cydymeimlo â'r golygydd gan i mi fod yn gyfrifol am gyfnod byr am olygu'r Llan - roedd yn gyfnod aflwyddiannus iawn, ond fe'm dysgodd pa mor anodd yw'r gwaith hwnnw. A beth am fy nghopi i o'r rhifyn cyfredol o'r Llan? A fydda i'n ei anfon yn ôl at yr Archesgob er mwyn iddo gael ei bwlpio? Yn anffodus er fy mod yn gweithio tuag at drefnusrwydd nid wyf wedi cweit gyrraedd y nod hwnnw eto a bydd yn rhaid i'r Archesgob alw heibio i'r tŷ i dwrio drosto'i hun os yw am ddod o hyd iddo i'w ddinistrio.
Tagiau Technorati: Eglwys yng Nghymru | Rhyddid.