Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-27

Encil Eglwys S. Mair

Dr RhLlMae'n rhaid fod newid yr awr yn eich effeithio yn waeth wrth ichi fynd yn hŷn. Dyna yw fy mhrofiad i o leia. Ers troi'r awr nos Sadwrn dwi wedi fy llorio yn llwyr! Dwi am gysgu trwy'r amser a does dim yr un blas ar flogio na chatalogio fy llyfrau ar librarything.com. Dwi'n siŵr o adennill fy egni wrth imi ddod yn fwy cyfarwydd â'r amser fel mae. Mae hi'n drueni fod yr awr wedi newid nos Sadwrn yn benodol oherwydd roeddwn i wedi bod mewn encil drwy'r dydd hwnnw ac wedi treulio'r diwrnod ar ei hyd yn myfyrio ar ein perthynas gyda Duw a gyda'n gilydd. Yr oedd peidio â rhuthro o gwmpas trwy'r dydd fel rwy'n arfer ei wneud mor aml ar ddydd Sadwrn yn help mawr i deimlo'n dda... ond wedyn fe aeth yr awr a diflannu.

'Ta beth, arweiniwyd yr encil gan y Dr Rhiannon Lloyd. Ers 1985 mae Dr Lloyd wedi bod yn gweithio'n mewn gweinidogaeth Gristnogol llawn amser, ac wedi datblygu gwaith yn canolbwyntio ar gymod mewn sefyllfaoedd o wrthdaro ethnig trwy weiniodgaethau Le Rucher. Dros y blynyddoedd diwethaf y mae hi wedi bod yn gweithio yn Rwanda, De Affrica, Côte d'Ivoire a'r Congo. Roedd hi'n dweud ei bod hi'n ceisio ymestyn ei gwaith i Israel a Phalesteina ar hyn o bryd, ond roedd y gwaith hwnnw yn mynd i fod yn dipyn o her! Yr oedd ei chyflwyniadau yn seiliedig ar y gwaith o gymodi – ond ar gyfer y dydd roedd y bwyslais yn symud o gymod ar draws rhaniadau ethnig i gymodi neu ddelio gyda'r pethau, sefyllfaoedd a'r unigolion hynny sy'n medru bod yn dramgwydd yn ei bywydau ni ac sy'n gwneud inni deimlo bod rhannau o'n bywydau wedi'u hysbeilio. Sail y cymod hwn yw cariad Duw a amlygwyd yn aberth Iesu ar y groes. Yr oedd hi'n pwysleisio sut y gall y pethau anodd hynny mewn bywyd gael eu prynu yn ôl a'u trawsnewid gan groes Iesu; delio gyda'r pethau hyn yw'r ffordd inni ddringo allan o'r hyn sy'n ein caethiwo i ryddid plant Duw.

Mae hanes bywyd a gwaith Rhiannon Lloyd yn ddiddorol iawn a llynedd fe gyhoeddwyd llyfr o gyfweliadau gyda hi, sef Llwybrau gobaith.

Ychwaneg o luniau o'r encil.

Tagiau Technorati: | | .