Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-28

Beth yw terfysgaeth nawr?

IMG_5410Fe fues i'n chwerthin ychydig ddiwrnodau yn ôl ar y posibilrwydd y gallai cofio am Rebeca a'i merched fod yn drosedd derfysgol o dan y deddfau newydd mae'r llywodraeth Lafur Newydd hon yn ceisio'i gweithredu. Heddiw cafodd Walter Wolfgang, gŵr 82 mlwydd oed o Lundain, ei gadw yn gaeth am gyfnod o dan y Ddeddf Atal Terfysgaeth bresennol a hynny am fentro gweiddi' "That’s rubbish, that’s a lie" tra'r oedd yr ysgrifennydd tramor, Jack Straw, yn siarad yng nghynhadledd y blaid Lafur Newydd am Irác. A hynny ar ôl iddo gael ei daflu allan o'r gynhadledd gan fownsars reit gyhyrog mewn modd trwsgwl iawn! Efallai ei bod ychydig yn ddi-chwaeth i ddweud fod y blaid Llafur Newydd wedi saethu ei hun yn ei throed wrth wneud hynny i un heclwr bach unig, ond mae yn nodweddiadol o'r diffyg meddwl yr ydym yn ei weld bellach yn llywodraeth Llundain. Yr ateb i bopeth yw llaw drom awdurdod.

Tagiau Technorati: | .