Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-02

Dwi hefyd yn ♥ Leanne Wood

Newydd ddarlen sylw ar Morfablog gan Nic Dafis yn dweud ei fod yn caru Leanne Wood. Roedd y cyfan yn ymwneud â dadl rhwng Leanne Wood AC Plaid Cymru a Lorraine Barrett AC Llafur Newydd. Roedd Barret yn ymosod ar Wood am gymharu protestiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd gyda ymdrechion dros hawliau sifil du yn y Taleithiau Unedig yn y 1960au: 'Far from sticking up for the vandals, Plaid should be condemning them. It is hard to imagine how Leanne Wood's comments could have been more insulting. I represent a part of Cardiff with a high number of black constituents who are rightly proud of the American civil rights movement. It is astonishing that Plaid Cymru regards the struggle of black Americans as equal to the vandalism of public property in Cardiff.'

Y peth rhwystredig yw nad does ffordd i ddadlau gyda phobol fel Lorraine Barrett sy’n medru gweld pethau mewn ffordd mor wyrdroedig (yn fy marn i). Lle fyddai dyn yn cychwyn ar y broses o geisio ymresymu gyda hi. Dyna lle roedd ymateb Leanne mor glyfar - ‘I am proud young Welsh people are continuing the tradition of non-violent direct action,’ she said. ‘New Labour would probably have slapped an Asbo on Sylvia Pankhurst (suffragette) and locked up Rosa Parks (US civil rights campaigner.)' Man a man bod yn goeglyd achos dyw pobol fel Barrett ddim yn mynd i ddeall rheswm.

Fe welson beth yw ymteb Llafur Newydd i leisiau nad ydyn nhw’n fodlon cytuno gyda’r drefn yn y modd y cafodd Walter Wolfgang ei drin yng nghynhadledd Llafur. Dal ati Leanne a daliwch ati Gymdeithas yr Iaith!

[Roedd hi'n drist sylwi hefyd fod y Western mail yn credu bod yn rhaid esbonio i'w darllenwyr bellach pwy oedd Sylvia Pankhurst a Rosa Parks.]

Tagiau Technorati: | | .