Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-04

Pob hwyl HCJ!

HCJ yn dweud ychydig eiriau ar y diweddNos Wener fe fues i yng Ngwesty'r Belle Vue siwrnai eto. Y tro hwn roedd nifer o gydweithwyr yno mewn parti i ddymuno'n dda i gydweithwr arall sy'n ymddeol ar ôl rhoi oes o wasanaeth. Mae HCJ yn ddyn serchog, yn ddyn gwybodus, yn arbenigwr yn ei faes, ac yn wy da cyffredinol. Roedd 'na nifer dda wedi dod i'r cinio - rhyw 70-80 i gyd - ac i'r dathliad. Cawsom bryd o fwy bwffe gyda phwdin i'w ddilyn. Roedd yn dewis yn y bwffe yn dda, ond roedd cyflymder y gweini yn araf. Bu'n rhaid disgwyl yn hir am y pwdin wedi'r prif gwrs; pan ddaeth roedd yn ddigon blasus. Wedyn roedd y prif ddigwyddiad sef teyrngedau a dymuniadau da i Huw oddi wrth gyfeillion a chyn gyd-weithwyr. Yn eu plith roedd cân gan AF ar ffurf baled yn adrodd hanes HCJ yn casglu archif o gartref y llenor David Jones wedi iddo farw. Fe wnes i fwynhau'n fawr a chyrraedd adref wedi 11 o'r gloch y nos. Gwely cynnar wedyn gan fy mod yn mynd i Ffair Nadolig Plaid Cymru drannoeth.

Rhagor o luniau o'r nosnn ffarwelio â HCJ.

Tagiau Technorati: | | .