Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-02

Feel insecure about your penis size?

Mae'n rhaid fod spamwyr yn darllen fy mlog. Oherwydd ers imi ysgrifennu am ddawnsio polyn yn Aberystwyth rydw i wedi cael degau o negeseuon e-bost yn holi imi a yw maint fy mhidlen yn fy mhoeni; diolch byth eu bod nhw'n ddigon caredig i gynnig help gyda'r broblem hyn yn yr un neges. Mae'n rhaid eu bod nhw wedi gwneud rhyw gysylltiad Freudaidd rhwng fy ymateb negyddol i ddawnsio polyn a fy ngalluoedd rhywiol. Felly fe fyddaf yn llawer mwy gofalus yn y dyfodol beth dwi'n ei ddweud am faterion felly. Y gwir amdani petawn yn ymateb yn gadarnahol i bob neges e-bost sy'n cynnig help o'r fath fe allai fy mhidlen ymestyn o fy fflat hyd at Glwb Yoko ac yn ôl heb lawer iawn o drafferth!

Tagiau Technorati: | .