Gallwch chi fod yn aros am fardd am oesoedd, ac yna'n sydyn mae 'na gadwyn ohonyn nhw'n ymddangos ar unwaith. Ar ôl cwmni y prifardd DJP yn unig am fisoedd o fewn y pythefnos diwethaf dwi wedi cael digonedd o feirdd yn gwmni imi. Cychwynnodd y cyfan gyda'r beirdd yn nathliad Seren Books ryw wythnos yn ôl, ond fe ddaeth i'w ben llanw ddydd Sadwrn diwethaf gyda Mererid Hopwood yn cael ei chyfweld gan yr Athro M. Wynn Thomas yng nghyfarfod blynyddol Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Fe ddylai pob Cymro neu Gymraeg ddarllengar fod yn aelod o'r Cyfeillion, mae'n fargen heb eu hail yn y lle cyntaf ac hefyd yn ffordd arbennig o wybod beth sy'n digwydd yn y byd cyhoeddi yng Nghymru. Bwriad y Cyfeillion yw hybu gwaith y Cyngor Llyfrau sy'n cynnwys: hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, ynghyd â deunydd cyffelyb arall, trwy ddarparu gwybodaeth a thrwy raglen lawn o weithgarwch; hybu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau trwy ddarparu rhychwant o wasanaethau a thrwy gyd-gysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd; a chynorthwyo a chefnogi awduron trwy ddarparu gwasanaethau a grantiau.
Dwi'n aelod o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau ac mae'r cyfarfod blynyddol lle bydd M. Wynn Thomas yn holi llenor Cymraeg neu Gymreig yn uchafbwynt. Mae M. Wynn Thomas mor dreiddgar yn ei gwestiynau ac mor sylwgar ac mor wybodus fel ei fod yn llwyddo i'n helpu ni i ddod i adnabod yr awdur mae'n ei holi yn dda iawn. Ond yn achos Mererid Hopwood mae'n rhaid imi gyfaddef nad ydw i wedi'i glywed e'n dweud cyn lleied ac yn holi cyn lleied o gwestiynau. Ond y gwir amdani oedd nad oedd angen iddo holi llawer ar Mererid; roedd hi'n un llif o atgofion ac anecdotau a straeon am ei bywyd a'i gwaith. Ac yn fwy na dim arall roedd hi'n eu hadrodd nhw i gyd yn ddifyr tu hwnt. Ddysgais i ddim rhyw lawer yn fwy am farddoniaeth Mererid, ond fe ddysgais lawer amdani hi ac roedd hynny'n werthfawr iawn.
Dwi'n holloll genfigennus o unrhyw un sy wedi meistroli cerdd dafod, ac yn arbennig felly menywod sy'n gwneud achos dwi'n credu taw rhywbeth gwrywaidd yw'r gynghanedd yn y bôn. Nid nad yw rhai menywod yn medru ei meistroli, ond yn fy nhyb i mae'r gynghanedd yn ffitio'n naturiol i'r duedd wrywaidd honno o roi trefn ar bethau. Y duedd a amlygir yn bennaf ymhlith ysmotwyr trenau. Dwi'n gwbwl argyhoeddedig petai'n beirdd caeth ni ddim yn ysgrifennu englynion, cywyddau, hir a thoddeidiau ac awdlau, &c. y buasai'r mwyafrif ohonyn nhw'n yn casglu rhifau bysus, neu'n cyfrif faint o dyrchfilod sydd mewn cae, neu'n tynnu lluniau o siopau Spar a'u catalogio, neu'n ysmotio trenau. Fel mae'n digwydd fe wnaeth Mererid Hopwood ei hun gyfaddef i'w diddordeb hithau, sef gramadeg - y cyfan yw gramadeg yw ysmotio trenau wedi'i droi yn wyddor academaidd!
Fel y dengys y llun fe lwyddodd yr adroddiad ariannol i ddifyrru rhai yn fwy na'i gilydd!
Rhagor o luniau o Meredig Hopwood yng nghyfarfod blynyddol Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.
Tagiau Technorati: Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru | Mererid Hopwood | Cerdd dafod.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.