Dyna syrpreis neis ges i ar ôl dod 'nôl i'r gwaith ar ôl fy salwch. Roedd rhywun wedi dod ag anrheg imi o dde Ffrainc, sef WH a GH. Diolch yn fawr iawn iddyn nhw. A beth oedd yr anrheg? Wel, dau ffotograff o siopau Spar yn yr ardal - un o Nice (ar y dde) a'r llall o Antibes. Nawr fy mod yn gwybod fod siopau Spar i'w cael yn yr ardal fe allaf ddychmygu y sêr sy'n byw fan'ny, yn arbennig Brigitte Bardot, yn popo mewn i'w Spar lleol am 5 o'r gloch y bore i wneud peth ffotogopïo taflenni ar gyfer ei phiced nesaf yn ei hymgyrch dros hawliau anifeiliad a phrynu'r garlleg 'na sy'n hanfodol mewn unrhyw fwy Ffrengig. Yn anffodus mae sylweddoli ei bod hi'n bosib i mi a Bardot siopa yn yr un gadwyn siopau yn gwneud i'w selebrwydd ymddangos yn llai bygythiol yn hytrach na'm dyrchafu innau i'w lefel hithau o serenrwydd ryngwladol.
I weld llun o Siop Spar, Antibes.
Tagiau Technorati: Spar | Ffrainc | Brigitte Bardot.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.