Pan wnaeth DJP ddweud ei fod am fynd i noson i ddathlu 25 mlynedd Seren Books yn Drwm y Llyfrgell Genedlaethol nos Fercher, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi meddwl "Beth ydw i'n ei wneud yn mynd yno?" ac felly fe benderfynais nad awn yno o gwbl. Ond am ryw reswm dyma fi'n newid fy meddwl ac fel arfer yn cael cynnig lifft garedig gan DJP ei hun, felly doedd yr un esgus gen i dros beidio â mynd. Eto i gyd, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl mewn gwirionedd. A phan gyrhaeddon ni yno doedd pethau ddim yn argoeli'n dda. Roedden ni'n rhyw 10 munud yn gynnar a ni oedd yr unig rai yno. Doedd pethau ddim llawer gwell erbyn 7.00pm - dim ond ni'n dau, rhai o drŵps y Cyngor Llyfrau a rhyw un neu ddwy arall - dim ond rhyw ddwsin i gyd.
Ond y gwir amdani yw fod pawb na wnaeth ddod i'r noson (rhyw 6,500,000,000 yn ôl cloc poblogaeth y byd Biwro Cyfrifiad y Taleithiau Unedig) wedi colli noson ardderchog. Roedd tri wrthi, Mick Felton, rheolwr-olygydd Seren Books yn cadeirio, a dau o'i awduron, sef Fiona Sampson a Christopher Meredith yn darllen eu gwaith.
Bardd yw Fiona Sampson, ond mae hi hefyd yn olygydd cylchgrawn y Poetry Society, sef Poetry review. Fe ddarllenodd hi o'i chyfrol ddiweddaraf, The distance between us. 'Nofel' ar ffurf cyfres o gerddi am garwriaeth sy'n digwydd rywle yn Ewrop, efallai yn Beograd yw'r llyfr. Roedd gan Sampson lawer i'w ddweud am ddwyrain Ewrop, ac mae'n amlwg ei bod wedi teithio'n eang yno gyda'i gwaith. Roedd ei cherddi yn rhai hirion ac yn gofyn llawer gan y gwrandawr; roedd cymaint o bethau yn dod atoch chi fel nad oedd hi'n bosib cadw gafael ar bob dim. Dyna pam dwi'n edrych ymlaen i eistedd lawr i ddarllen y gyfrol hon a medru troi yn ôl i weld beth sydd wedi'i ddweud. Ond byddaf yn gwneud hynny gyda'i llais yn fy meddwl. Bydd hynny'n ychwanegu at y cerddi gan ei bod yn berfformwraig wych o'i gwaith ei hun, yn eich tynnu i mewn i'r byd yr oedd yn ei chreu gyda geiriau. Roedd y cerddi y darllenodd hi yn ei dangos fel bardd teimladwy, nwydus, a synhwyrus.
Roedd Christopher Meredith yn berfformiwr hefyd, ond roedd ei waith yn wahanol iawn i un Sampson. Roedd tinc o hiwmor ac ysgafnder yn rhai o'i weithiau, yn wahanol i'r cerddi y dewisodd Sampson eu darllen. Mae e'n fardd ac yn nofelydd, ac yn ddiweddar fe gyhoeddodd gyfieithiad o un o nofelau Mihangel Morgan i'r Saesneg, Melog. Yr oedd yntau yn darllen o'i gyfrol ddiweddaraf The meaning of flight, ond rhaid imi ddweud taw'r hyn roes y mwyaf o bleser i mi ar y noson oedd ei ddarlleniad o'i nofel Sidereal time. Llwyddodd yn ei waith, oherwydd wedi gwrando arno'n darllen o'r nofel honno mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod am ei darllen hi, a mwy o'i farddoniaeth hefyd.
Dim ond dwsin, ond roedd yn wych. Ar ddiwedd y noson fe brynais gyfrolau diweddaraf y ddau yn siop y Llyfrgell Genedlaethol, ac fe wnaeth y ddau eu harwyddo imi. Roeddwn i gyda DJP, bardd go iawn, ac wrth inni ofyn i Fiona Sampson arwyddo ein cyfrolau dyma hi'n troi at DJP ac sylweddoli ei fod yntau hefyd yn fardd, yn brifardd. Newidiodd ei hagwedd o fod yn boleit i ddangos y parch mwyaf tuag ato. Roedd hi'n dda cael bod yng nghwmni seleb, a hwnnw seleb o sylwedd!
Ychydig rhagor o luniau o'r noson.
Tagiau Technorati: Llyfrau | Seren Books | Fiona Sampson | Christopher Meredith.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.