Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-10-17

Edward H mewn bocs

'Edward H mewn bocs' yn ffenest siop Inc, Aberystwyth

Dwi wedi gweld beth dwi ise yn ffenest siop Inc yn Aberystwyth. Mae newydd ymddangos, sef Edward H mewn bocs: ffordd gyfrwys gan Recordiau Sain i wneud i ffôgïau canol oed fel fi i ddweud 'hwyl fawr' wrth £29.99 jyst er mwyn jôcan ein bod ni'n ifainc unwaith eto. Ond pwy a oedd yn ifanc yn 1976 ac aeth i weld Edward H yn canu yng nghastell Cilgerran (un neu ddwy o ganeuon yn unig cyn i'r cyflenwad trydan ffrwydro!) na fydd am weld ei blant (yn eu harddegau bellach, si&373;r o fod) yn rhoi'r bocs fel anrheg yn ei hosan Nadolig eleni?

Mae'r bocs yn cynnwys 6 CD, a dyma'r caneuon sydd ar bob un:
CD1: YR HEN FFORDD GYMREIG O FYW
Cadw Draw, Pontypridd, Ti, Mistar Duw, Pishyn, Ty Haf, Rosi, I’r Dderwen Gam, Calan gaea, Drudwy, Hedydd, Cân Ymadael, Ffarwel i blwy Llangywer
CD2: FFORDD NEWYDD EINGL-AMERICANAIDD GRÊT O FYW
Yn y fro, Lisa Pant Ddu, Cân Mewn Ofer, Hi yw, Mynydd Gelli Wastad, Preseli, Pamela, Paid â Gofyn, Y Gog Lwydlas, Neb ar ôl, Cân Charli gan Dewi
CD3: ‘SNEB YN BECSO DAM
Y Penderfyniad, Ar y Ffordd, Y Golau Llachar, Plentyn Unigrwydd, Cofio’r Dechrau, Angau, Brenin Cyffur, Duwies y Palmant, Gwenwyn yn y Gwaed, Singl Tragwyddol, Cloriannu, ‘Sneb yn Becso Dam
CD4: YN ERBYN Y FFACTORE
Breuddwyd roc a rôl, Smo fi ishe mynd, Môr yn marw, Ysbryd y Nos, Merch y Café, Dyn y Stryd, Heno, Dwed y Gwir, Y Nos a Ni, Miranda
CD5: PLANT Y FFLAM
Plant y Fflam, Porth y Gwir, Dyffryn y Dall, Arglwydd y Gair, Croesffordd y Gwaed, Castell y Blaidd, Morwyn y Gwlith, Tir Glas (Dewin y Niwl), Tir Glas (Plant y Fflam), Dewch at eich Gilydd
CD6: Y SENGLAU A’R TRACIAU BYW
Cân y Stiwdants, Ffarwel i Langyfelach Lon, Gwrandewch, Cân Jên, Hedfan, Braf, Gwersyll Llangrannog,VC 10, Uffern ar y ddaear, Pishyn
Fe allen ni orwedd mewn bath twym a jyst gwrando ar rywun yn darllen teitlau y caneuon yn uchel drosodd a throsodd ac fe fusen i yn fy seithfed nef! Pwy sydd angen aromatherapi?

Tagiau Technorati: | | .