Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-01

'Nôl i Aberaeron yn y bore

Bore 'fory dwi'n mynd nôl i Aberystwyth. Y tro hwn fel un o gynrychiolwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i drafod sefyllfa'r Gymraeg yng Ngheredigion gyda neb llai nag arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Dai Lloyd Evans. Y bwriad yw parhau â thrafodaeth a gychwynodd ddiwedd 2004 pan gyflwynodd Rhanbarth CeredigionCymdeithas yr Iaith Gymraeg gopi o'i Siarter Ceredigion 2005 i bob cynghorydd sir mewn ymgais i ddechrau trafodaeth yng Ngheredigion am ddyfodol yr iaith yn dilyn cyhoeddi ffigurau Cyfrifiad 2001 yn dangos taw dim ond ychydig dros 50% o bobol Ceredigion sy'n medru'r Gymraeg, Roedd hynny'n dangos cwymp o yn agos i 9% ers y cyfrifiad diwethaf yn 1991. Gobaith y Gymdeithas yw bydd y cyngor yn sefydlu gweithgor i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg yn y sir gan lunio set o argymhellion pendant y gall y cyngor eu gweithredu. Cyfraniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i'r drafodaeth yw Siarter Ceredigion 2005. Dwi'n gobeithio hefyd y bydd hyn yn gyfle i gael brecwast arall yng Nghegin Alban!