Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-31

Ymweliad annisgwyl ag Ysbyty Bronglais

Ysbyty Bronglais, AberystwythAr y ffordd 'nôl o Aberaeron fe awgrymodd RO y gallai fod yn syniad i fynd i Ysbyty Bronglais i weld sut oedd ACD. Ar ôl siarad gydag ef ar y ffôn neithiwr mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi dechrau teimlo y dylw fynd i'w weld. Roedd yr alwad ffôn yn ernes i mi ei fod yn gwneud cynnydd da. Roedd ar Ward Owain Glyndŵr yn Ysbyty Bronglais. Wrth gyrraedd y ward fe welwd taw 3pm-8pm oedd yr oriau ymweld swyddogol. Felly rhaid oedd gofyn am ganiatâd i ymweld ag ACD. Fe'i cafwyd ac roedd hi'n hyfryd medru cerdded mewn i'r ystafell a'i weld yn edrych cystal. Mae disgwyl iddo edrych yn wan ar ôl triniaeth fawr o'r fath, mae disgwyl iddo fod yn flinedig. Ond roedd yn awyddus i siarad gyda ni, er gwaethaf y ffaith ei fod yn cwyno fod ei geg yn sych. Trafodwyd pob math o bethau - y driniaeth wrth gwrs a sut roedd e'n teimlo – gan gynnwys llyfr Caryl Lewis, Martha, Jac a Sianco. Roedd hi'n demtasiwn i aros am fwy o amser i siarad a thrafod mwy, ond roedd hi'n amlwg taw dim ond hyn a hyn y gallai ACD roi ar hyn o bryd. Gobeithio'n fawr iawn y bydd mwy o gyfle i drafod a siarad yn fuan iawn, a hynny ar aelwyd Maes Lowri.