Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-31

Brecwast yn Aberaeron

Ar ôl y cyfarfod roedd RO yn gwbl flinedig ac ar ucheliad adrenalin ar yr un pryd. Felly roedd yn rhaid cael coffi a rhywbeth i'w fwyta. Felly bant â ni i Gegin Alban Cegin yn Stryd y Bont, ger y groesfan belican (01545 570310) a chael croeso. Fe ges i frecwast llawn a the, cafodd RO gacen goffi gyda'i de yntau. Dwi wastad wedi cael bwyd cartref da yng Nghegin Alban bob tro dwi wedi galw yno - doedd pethau ddim gwahanol y tro hwn eto. A'r hyn sy'n hyfryd hefyd yw Cymreigrwydd y lle. Dwi'n gwybod fod tref fel Aberaeron yn dibynnu cymaint ar dwristiaeth ac ymwelwyr, ond wrth wneud hynny does dim rheol yn dweud bod yn rhaid anghofio am y bobol leol. Yn bendant does dim rheol o'r fath yng Nghegin Alban. Galwch heibio os cewch chi gyfle.

Wedi brecwast, a chyn ymlwybro 'nôl i ABerystwyth, cefais gyfle i dynnu rhai lluniau o'r dref.