Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.
2005-04-01
Caerdydd, Caerdydd!
Mae'r panic drosodd! Dyw Caerdydd ddim yn llawn, wedi'r cwbl. Dwi'n mynd lawr i Gaerdydd am dri diwrnod yr wythnos nesaf ac heb ddod o hyd i le i aros. Felly fe dreuliais prynhawn ddoe yn chwilio am le. Fel mae'n digwydd mae'r amser yn un arbennig o brysur i westai gan fod cynhadledd ryngwladol yn dod i'r brif ddinas ar yr union adeg. O'r 5-9 Ebrill bydd yr International Association of Teachers of English as a Foreign Language (IATEFL) yn cynnal cynhadledd yn Neuadd y Ddinas ac yn yr Amgueddfa. Mae disgwyl y bydd 1,500 o gynrychiolwyr o ryw 70 o wladwriaethau. Wedi ffonio fy chweched gwesty yn Ffordd yr Eglwys Gadeiriol yn heb unrhyw sôn am le gwag roeddwn i'n anobeithio ac yn dechrau credu y buasai'n rhai imi aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu ym Merthyr Tudful. Ond yn hwyr neithiwr wrth frigo'r we fe ddes i o hyd i le mewn Travelodge yng nghanol y ddinas. Diolch byth!