Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-13

Yr annisgwyl

Does dim sy'n well i'r ysbryd na chwa o awel iach yr annisgwyl. Nid sioc dwi'n cyfeirio ato, ond yr annisgwyl. Rhywbeth sy'n herio'ch disgwyliadau am berson neu sefyllfa arbennig. Cefais i'r profiad hwnnw gyda gyrrwr tacsi ddydd Sadwrn. Dwi'n gwybod nad oes neb sy'n fyw enwog am fod yn stereoteip na gyrrwyr tacsys. Mae eu profiad hir o ddarllen y Daily mail, Sun a'r Daily express ar y ranciau wedi pydru eu meddyliau i unffurfiaeth asgell-dde Prydeinig adweithiol. Felly dychmygwch y syndod o gael sgwrs am Gwpan y Byd a gobeithion Lloegr wnaeth orffen, "Let's hope they don't win. 'Cos if they do we won't hear the end of it." Gobeithio na chafodd ei siomi'n ormodol gan y canlyniad. Tra bo gyrrwyr tacsys fel 'na o gwmpas mae dal i fod rhyw obaith dros wareiddiad!

Tagiau Technorati: | | .