Stori yn y Western mail heddiw am y rheilffordd o Aberystwyth i Birmingham. Dyw cynnwys y stori ddim yn newyddion mewn gwirionedd, ond mae'n ddiddorol nodi fod hyd yn oed rheolwr newydd Trenau Arriva Cymru, Bob Holland, yn gorfod cyfaddef: "It's a difficult route. The long-term solution is working with Network Rail over the next two to three years, in the meantime it's always going to be difficult to maintain the reliability that we want." Mewn geiriau eraill mae'n mynd i fod yn ddwy os nad tair blynedd eto cyn bod y trenau yn rhedeg ar amser! Yn y cyfamser faint o arian cyhoeddus bydd y cwmni preifat yn ei lyncu wrth ddarparu gwasanaeth eilradd?
Tagiau Technorati: Rheilffyrdd | Trafnidiaeth gyhoeddus | Arriva.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.