Fe ddes i 'nôl o Lundain, ond dim diolch i Drenau Arriva Cymru. Roedd pethau wedi bod yn ddigon gwael ar y ffordd lawr - ar y trên am dair awr heb dŷ bach. Cyn teithio roeddwn i wedi cael peint o ddŵr soda a pheint o lemonêd ac wedi hepgor gwneud yr angenrheidiol gan dybio y cawn ryddhad ar y trên. O'r ffŵl twp! Buasai popeth wedi bod yn iawn oni bai i'r gard gyhoeddi ar ôl inni adael Machynlleth nad oedd un o'r tai bach ar y trên yn gweithio, "but if you are really, really desperate, we do have a small toilet which you could squeeze into - but only if you are really desperate ..." Mae'n ddigon posib pe na bai'r cyhoeddiad wedi'i wneud y busen i wedi mynd at y tŷ bach a gweld nad oedd yn gweithio a meddwl dim mwy am y peth. Ond roedd y cyhoeddiad wedi canolbwyntio fy sylw yn llwyr ar y mater. Felly wrth inni deithio heibio i olygfeydd gwych y canolbarth, roedd fy meddwl i mewn man arall. Cyrraedd Amwythig, dim amser i edrych bensaernïaeth ryfeddol yr hen briordy, roedd fy meddwl i mewn man arall. Teithio trwy dirlun diwydiannol canolbarth Lloegr, ond roedd fy mewddl i mewn man arall. Dim ond wedi cyrraedd gorsaf Stryd Newydd Birmingham a mynd ar drên Virgin i Lundain Euston y daeth diwedd ar fy ngofid.
Mae'n warthus bod Trenau Arriva Cymru yn medru trin eu cwsmeriaid (fe wnes i dalu am deithio ar y trên!) yr un modd ag y mae Byddin y Taleithiau Unedig yn trin carcharorion Guantánamo oherwydd roedd y daith honno i Birmingham yn boenydio corfforol a seicolegol.
Tagiau Technorati: Teithio | Trenau | Arriva.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.