Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-05

Network Rail a Threnau Arriva Cymru eto

RP yng ngorsaf Stryd Newydd BirminghamMae Lloegr yn troi yn wladwriaeth heddlu yn raddol bach. Caiff pawb a phopeth eu hamau o fod yn fygythiadau diogelwch. Dyna ddigwyddood i mi ar y ffordd 'nôl o Lundain. Does dim angen imi ddweud wrth ddarllenwyr Blog Dogfael fy mod yn un sy'n hoff o gofnodi popeth dwi'n ei wneud gyda ffotograffau. Dwi wedi bod yn tynnu ffotograffau o bawb a phopeth ers dros deunaw mis bellach, ac am y tro cyntaf erioed fe orfodwyd imi ddileu rhai ffotograffau a dynnais yng ngorsaf Stryd Newydd Birmingham o bob man. Yr unig lun sy gen i yw RP yn mwynhau cwpanaid enfawr o goffi yn siop Ritazza ar yr orsaf. Doeddwn i ddim wedi tynnu lluniau cyffrous iawn a dim llun o neb oedd yn gweithio yno. Dyma'r hyn roeddwn i wedi'i dynnu:
  • y glwyd tu fas i dai bach y dynion (x2);
  • the Pasty Shop (x2);
  • siop W. H. Smith;
  • yr esgeladuron i ganolfan siopa Pallisdades; a
  • llun cyffredinol o siop goffi Ritazza.
Mae lluniau o'r fath yn fygythiad i ddiogelwch heddiw yn Lloegr. Daeth y swyddog ata i a gofyn imi ddileu'r lluniau oddi ar y camera. Roeddwn i'n teimlo'n wan ar y pryd, roedd cyhoeddiad newydd fod yn dweud bod y trên i Aberystwyth wedi'i ganslo a buasai'n rhaid mynd i Wolverhampton i'w ddal. Felly doedd gen i ddim o'r nerth i ddadlau a dyma fi fel oen swci yn ufuddhau i'w orchmynion draconaidd!

Efallai fy mod i wedi ildio yn rhy hawdd o lawer i bwysau gwladwriaeth y Brawd Mawr, ond diolch byth fod 'na rai sy'n fodlon sefyll dros eu hawliau. Dyma sut olwg sydd ar orsaf Stryd Newydd Birmingham. Diolch i Trenau Arriva Cymru dwi'n adnabod y lle yn well na'r hyn dwi'n ei ddymuno. Gan amlaf mae'r trên o Aberystwyth yn cyrraedd yn hwyr i ddal y trên i Lundain a mae gofyn i ddyn aros ar yr orsaf yn gwario arian yn y caffis. Ond wrth ddod 'nôl y tro hwn doedd trên Arriva Cymru ddim hyd yn oed yn dod i Birmingham. Oherwydd ei fod mor hwyr roedd wedi aros yn Wolverhampton gan ddisgwyl i ni fynd ato ef. Roedd hynny'n ddigon o drafferth ynddo'i hun. Doedd hynny ddim yn gadael rhyw lawer o amser i redeg o blatffordd i blatfform yn Wolverhampton, a phan es i ar y trên roedd yn orlawn. Ar amser yn gadael Wolverhampton, ar amser yn gadael gorsaf Amwythig, ac yna o fewn eiliadau yn gorfod aros am ryw chwarter awr am fod y trên nesaf yn hwyr, ac yn Nhalerddig aros am ryw ugain munud arall. Beth sy'n bod? Rhoes yr aros hyn gyfle imi edrych yn fwy manwl ar gyflwr y cerbyd - roedd yn fochaidd o fudr ac nid baw wythnos neu wythnosau oedd yno, ond blynyddoedd. Wnes i ddim meddwl defnyddio'r tai bach!

Dim ond mewn un ffordd roedd trenau Arriva Cymru yn rhagori a hynny am eu bod yn darparu rhew i fynd gyda'r diodydd oedd yn cael eu gwerthu ar y trên. Doedd Richard Branson a threnau Virgin ddim yn medru cynnig hynny i mi.


Tagiau Technorati: | | .