Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-01

Helo o Lundain

Dwi'n ysgrifennu'r ychydig eiriau hyn o gyntedd y gwesty lle dwi'n aros yn Llundain. Dwi wedi bod yma i gyfarfod wedi'i drefnu gan yr undeb. Mae'n bell i fynd am gyfarfod ac roeddwn i wedi mynd i weld a oedd rheswm dros inni fynd yn gyson. Cawn weld. Yr wyf fi'n dioddef oddi wrth diffyg Eisteddfod yr Urdd yma yn Llundain. Er bod teledu Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ar gael yma, does dim S4C o gwbwl. Roedd yn rhaid ifi ffonio DML i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr Urdd neithiwr a dwi'n bwriadu gwneud yr un peth eto heno. Mae'n rhaid cael gwybod pwy sydd wedi ennill, ac yn arbennig a oes rhywun wedi ennill o Sir Benfro. Dwi'n cyfaddef fy mod yn gwbl unllyeidiog wrth wylio Eisteddfod yr Urdd ar y teledu ac yn cynhyrfu trwof os oes rhyw blentyn o'r sir yn perfformio. Mae'r cynnwrf gymaint mwy os yw'r plentyn yn dod o un o ysgolion i'r de o'r landsker!

Tagiau Technorati: | | .