Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-10

Penarth yn chwifio'r faner

LloegrBeth sy'n digwydd? Mae pobol yn dechrau cwyno o'r diwedd am chwifio baner Lloegr yng Nghymru ac mae'n troi yn ddadl. Yn ôl gwefan y BBC, dyna ddigwyddodd ym Mhenarth pan geisiodd crwt 11-mlwydd oed chwifio baner Lloegr o ffenest ei ystafell wely. Fe wnaeth un o'r cymdogion gwyno am hyn ac ar y cychwyn fe geisiodd y landlord gael y crwt i dynnu'r fflag. Ond yn y diwedd, i ddangos nad oeddent yn galon galed, fe roddwyd caniatâd iddo arddangos baner S. Siôr yn gyhoeddus. Yr hyn oedd yn ddiddorol iawn i mi oedd fod mam y crwt oedd am chwifio'r faner wedi defnyddio'r ddadl: "It's fun at the end of the day we are showing our support for the only British team left in there." Tybed petai pethau'n wahanol (breuddwyd ffŵl dwi'n gwybod), gyda Chymru drwodd i'r rowndiau terfynol a Lloegr heb lwyddo. A fyddai y ddraig goch yn chwifio dros fflatiau Essex? Dwi'n gobeithio y byddwn ni rhyw ddiwrnod yn medru profi'r ddamcaniaeth - felly er mwyn gwyddoniaeth fe fydd yn rhaid i Gymru ennill y tro nesaf ac yn anffodus bydd yn rhaid i Loegr golli. Mae hi ond yn deg inni fedru cynnal yr arbrawf hwnnw, bydd yn gyfraniad pwysig iawn i'n dealltwriaeth o beth yw 'Prydeindod' yn yr unfed ganrif ar hugain. Efallai y buasai Llywodraeth y Cynulliad yn fodlon ariannu'r peth fel rhan o'i hymgyrch i godi 'proffil' Cymru. Mae'n debyg y busai'r ddraig goch yn blastar ar dŷ William a Lesley yn Sunderland (uchod) petai cyfle i wneud yr arbrawf, ac fe allen ni ychwanegu un cam arall wedyn a gweld a fuasai'r cymdogion yn cwyno am faner Cymru fel y gwnaethon nhw am y baneri S. Siôr ac undeb!

Tagiau Technorati: | .