Dyw e ddim yn obseiswn ... eto! Mae 'na erthygl yn y Guardian heddiw yn sôn am bresenoldeb baner S. Siôr ar strydoedd Lloegr. Mae'n dechrau:
England looks like one giant George Cross. It's not just the myriad car flags and house flags flapping in the air. Even corporate logos appear to be burnished England red and white. HSBC, the Abbey, bus stops, phone boxes, no entry signs, L-plates, have all metamorphosed into George flags. Walk the streets, and you hear the same muttering. "What score?" "Where are you watching?" "I'm already sick of it."Yn yr erthygl ddifyr dwi'n dysgu "Most of England and Wales' 77,595 prisoners are expected to watch the match. Only those in segregation will not have access to a TV." A dwi'n dechrau holi i fi fy hunan a fyddai gan y carcharorion Cymreig reswm dros fynd â'r llywodraeth i'r Llys Iawnderau Dynol ar sail eu bod yn gorfod dioddef triniaeth annynol, annarferol, a chreulon. A nodaf gyda diddordeb hefyd nad oes sôn am garcharorion yr Alban yn dioddef y fath driniaeth. A oes 'na bosibilrwydd fod carcharorion Cymru hefyd yn wynebu gwahaniaethu ar sail eu tarddiad cenedlaethol?
Tagiau Technorati: Cwpan y Byd 2006 | Seisnigrwydd.