"It's a party atmosphere, it's a carnival, the Germans have made everybody welcome," said Cristian Gladdish, from Canterbury, brandishing an inflatable World War Two Spitfire. Yahoo news.
Er nad oeddwn i wedi trefnu'r peth mewn gwirionedd fe ges i fy hun yn gwylio gêm agoriadol Cwpan y Byd 2006 yn nhafarn Varsity gyda RO. Roedd y lle yn weddol wag a doedd dim rhyw awyrgylch cynhyrfus iawn yno. Ond wrth i Costa Rica bwyso ar phwyso ar yr Almaen fe ddaeth hi'n amlwg nad oedd llawer iawn o ffrindiau'r Almaen yn y lle. Cefnogwyr Lloegr oedd yno ac roedden nhw'n dechrau mwynhau beth oedd yn digwydd. Yna fe ddaeth pedwar Cymro i mewn ac fe ddechreuodd pethau newid. Nawr roedd 'na gefnogwyr gan yr Almaenwyr a'u symudiadau a'u hymdrechion yn cael eu cymeradwyo gan y Cymry. Wrth iddi ddod yn amlwg fod yr Almaen yn mynd i drechu fe dawelodd y cefnogwyr Lloegr ond roedd hi'n amlwg fod y Cymry yn hapus iawn gyda'r canlyniad. Yn bersonol roeddwn yn cael fy nhynnu y ddwy ffordd ac heblaw am y sefyllfa lle'r oeddwn i mae'n debyg y byddwn i wedi bod yn gweiddi dros Gosta Rica hefyd - dwi wastad am weld y timau bach yn cael y gorau ar y timau mawr, a does dim llawer o dimoedd sy'n fwy na'r Almaen. Ac eto roedd y rhaniad rhwng cefnogwyr Cymru a chefnogwyr Lloegr wedi'n gwthio ni i'r hyn a fyddai fel arfer i'r gwrthwyneb i'n hegwyddorion arferol. Rhyfedd, a hithau ond yn ddiwrnod cyntaf Cwpan y Byd! Pwy a ŵyr na fydd pethau rhyfeddach yn digwydd cyn bo hir.
Rhagor o luniau o Gwpan y Byd 2006 yn Varisty, Aberystwyth.
Tagiau Technorati: Cwpan y Byd 2006 | Cymreictod | Seisnigrwydd.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.