Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-19

Noson fondue!

Cerddorion yn trafodDyw gwybod y bydd pawb yn dweud ei bod hi'n nodweddiadol o ddosbarth canol i Blaid Cymru Aberystwyth a Phenparcau drefnu noson fondue i godi arian. Ond byddwn i'n ymateb yn syth a dweud taw sefyll yn lle barbaciw oedd y fondue. Y drafferth gyda barbaciw yw ei bod yn rhaid ichi drefnu'r tywydd fis ymlaen llaw er mwyn ei gynnal yn llwyddiannus. Gellir sicrhau bod noson fondue yn mynd i fod yn sych! Ond mae'r elfen o fflamau ac o gogoinio pethau o flaen eich llygaid yn rhan o'r profiad fondue, felly mae'n medru gwneud y tro dros farbeciw yn iawn. Roedd ID a NMD wedi trefnu'r cwbl yn gampus ac roedd y bara a'r salad a'r fondue caws yn gwneud pryd blasus dros ben. Trueni nad oedd mwy yno, dim ond iddyn nhw gael blasu'r fodue caws hyfryd ... heb sôn am ein helpu ni i godi mwy o arian! Unwaith eto roedd IapD ac EG yn barod iawn i ganu eu hofferynnau - ffidil, sacsaffôn, ffliwt a bagbibau.

Mae unrhyw un sy'n f'adnabod i yn dda yn gwybod cymaint o ran y chwaraeodd fondue yn fy ieuenctid. Nid fy mod wedi gweld set fondue na'i flasu erioed ym Mynachlog-ddu; ond dyna oedd fy ffantasi parhaol ynghyd ag After Eights. Dyna oedd y 'lifestyle' yr oeddwn yn dewis i fi fy hun. Yn anffodus doedd dim ffordd o gwbwl i wireddu hynny. Roedd hi'n 1979 cyn imi flasu fy fondue cyntaf a hynny pan yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Dwi'n gwybod fod hyn'na yn gyfaddefiad ffogïaidd iawn i'w wneud - tra bod eraill yn arbrofi gyda phob mathau o gyffuriau oedd yn ehangu'r meddwl, roeddwn i'n arbrofi gyda chaws Gruyère a Emmental, kirsch a gwin gwyn!


Lawrlwytho'r ffeil

Rhagor o luniau o'r noson fondue.

Tagiau Technorati: | .