Heblaw am ei ddelw ar seliau nid oes gan neb unrhyw syniad o sut olwg oedd ar Owain Glyn Dŵr mewn gwirionedd. Ond mae gan ddigon o bobol syniadau am sut olwg ddylai fod wedi bod ar Owain Glyn Dŵr, ac nid yr hyn a ddychmygwyd gan y cerflunydd Simon van de Put yw hynny. Ar y sgwâr yng Nghorwen ar hyn o hryd saif cerflun hynod o'r tywysog fel dyn byr cyffredin sy'n debyg i'w gyd-wladwyr sy'n tyrru i'r dref fechan hon bob wythnos. Ond nid un fel 'na yw Glyn Dŵr i fod. Yn ôl gwefan newyddion BBC Cymru dyw pobol y dref ddim wedi hoffi'r cerflun ers ei godi yn 1995. Dywedodd un o aelodau'r cyngor cymuned: "Mae cerflun gwell mwy drudfawr, mwy tywysogaidd, yn mynd i ddod yn ei le a gobeithio y bydd yn plesio'r mwyafrif o bobl Cymru."
Dechreuodd hyn wneud imi feddwl am ba nodweddion a olygir wrth yr ansoddair 'tywysogaidd' gan fod tywysogion wedi dod mewn pob siap a lliw a llun dros y canrifoedd. Ai rhywun tal a golygus yw'r ystyr? Ai rhywun Sgandinafiadd yr olwg yn hytrach na Chymro byr boliog? Bydd y cerflun newydd yn costio rhyw £100,000. Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn meddwl fod y cerflun persennol yn gwneud y gwaith yn iawn. Wrth herio'r confensiwn o sut y dylid cynrychioli tywysog mae'r cerflun yn llwyddo i'n gwneud ni i feddwl am Owain fel dyn yn ogystal â gwladweinydd ac arweinydd mewn rhyfel. Delwedd o dysywog democrataidd a geir yn y cerflun - yn wreiddiol yr oedd yn isel i lawr ar yr un lefel â phawb arall, ond bod yn rhaid ei osod yn uwch oherwydd ymosodiadau gan fandaliaid. Dyma dywysog ar raddfa ddynol. Dyma dywysog sy'n adlewyrchu ein profiad ni fel cenedl fechan mewn byd mawr. Mae lle i ofni fod eraill yn dymuno tywysog fydd yn 'ymerodraethol' ei olwg, yn adlewyrchu gwerthoedd gwahanol iawn i'r rhai yr ydym ni yn rhoi bri arnynt heddiw. Edrychaf ymlaen i weld beth fydd yn cymryd lle'r cerflun presennol, ond hoffwn i ddim gweld disodli gweledigaeth Simon van de Put yn llwyr.
Rhagor o wybodaeth am gerflun Simon van de Put.
Tagiau Technorati: Cofebau | Owain Glyn Dwr | Corwen.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.