Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-19

Baneri Lloegr yng Nghymru

Tŷ ym Mhont-goch, CeredigionAr fy nheithiau ddoe ac echdoe fe ddes i ar draws mwy o dystiolaeth i bresenoldeb cefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yng Nghymru. Efallai yr esiampl fwyaf eithafol oedd tŷ ym Mhont-goch lle'r roedd pedair baner S. Siôr enfawr yn hedfan. Roedd 'na dai hefyd ym Mhenrhyn-coch a Llanbadarn Fawr lle'r oedd baner Lloegr yn 'chwifio' yn yr awyr iach. Nawr, fe alla i ddeall un faner, ond mae mwy nag un a'r rheiny yn rai mawrion yn fy nharo i fel rhyw fath o ddatganiad sydd â mwy o arwyddocâd iddo na dim ond dangos cefnogaeth i dîm pêl-droed.

Wedi hyn'na i gyd daeth y cyfle i wneud fideo byr o gar gyda baneri Lloegr yn gyrru trwy Gapel Bangor. Rydw i'n falch iawn o'r fideo hwn oherwydd mae'n anodd iawn sylwi ar bopeth wrth fynd heibio. Fe wnes i golli llun da o dŵ yn Llanbadarn Fawr a oedd yn gyforiog o faneri S. Siôr er imi fynd heibio dwywaith! Os bydd Lloegr yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd 2006 yna fe fydd gen i gasgliad sylweddol iawn o effemera pêl-droed Seisnig yng Nghymru!

Rhagor o luniau o Loegr yng Nghymru.

Tagiau Technorati: | | |