Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-31

Eglwys S. Mair, Aberystwyth

Dwi'n gwybod y bydd y rhan fwyaf o bobol yn credu fy mod wedi mynd dros ben llestri, ond fe es i ati ddydd Sul, cyn gwasanaeth yr Hwyrol Weddi, i geisio cofnodi pob agwedd ar y tu fewn i adeilad Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth. Dwi ddim wedi gorffen eto. Ond mae croeso ichi gael golwg ar yr hyn dwi wedi'i wneud yn barod. Mae angen golygu ychydig ar y lluniau, ond maen nhw'n reit ddifyr os oes gennych ddiddordeb yn y fath hyn o beth. Dwi heb ychwanegu capsiynau i'r cyfan eto, ond fe fyddan nhw'n dod gydag amser.

Mair, Mam ein Harglwydd

Rhagor o luniau o'r tu fewn i adeilad Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth.

Tagiau Technorati: .