Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-10

Gŵyl Fawr Deddf Iaith Newydd


Pala yn canu ar ddechrau'r ŵyl

Fel y dywedais i roeddwn i mewn bydysawd cyfochrog ddoe. I mi nid Cwpan y Byd 2006 oedd y realiti, ond yn hytrach sefyllfa'r Gymraeg wrth imi fod yn un o'r cannoedd a ddaeth ynghyd yng Ngŵyl Fawr Deddf Iaith Newydd a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Yr oedd y rali yn cychwyn am ryw 2.00pm a'r unig dro i'r byd mawr tu fas dorri ar ein traws oedd y waedd a glywyd o du'r bar rhyw bum munud yn ddiweddarach. Heblaw am hynny roedd pawb yn canolbwyntio ar yr alwad am ddeddf iaith newydd fuasai'n rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.

Siwan Tomos, UMCA, yn siaradMae'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd wedi bod yn un hir. Fe ddechreuodd yn union wedi gweithredu Deddf 1993, oherwydd erbyn i honno gyrraedd y llyfr statud a chael ei gweithredu yn gyflawn roedd sefyllfa'r Gymraeg a natur cymdeithas wedi newid yn fawr iawn. Yn 1993 prin oedd y bobol oedd wedi gweld y we fyd eang, erbyn heddiw mae'r rhyngrwyd yn rheoli ein bywydau bron â bod. Ond os geisiwch chi wasanaeth Cymraeg trwy'r we fyd eang gan adrannau'r Llywodraeth fe welwch yn gyflym iawn nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin 'yn gyfartal'. Felly roedd niefr o siaradwyr wedi dod ynghyd i wneud yr achos dros ddeddf a fuasai'n gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac yn datgan taw hi yw priod iaith ein gwlad.

Eileen Beasley yn gadael y llwyfanAr ddechrau'r prynhawn talwyd teyrnged i Eileen Beasley, gynt o Langennech, am ei hymgyrch arloesol, ynghyd â'i gŵr Trefor, i gael bil treth dwyieithog gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli. Dechreuodd ar ei hymgyrch yn 1952, roedd hi'n 1960 cyn i'r bil dwyieithog gyrraedd - erbyn hyn yr oedd y bwmbeli wedi bod yn ei chartref rhyw 14 o weithiau i atafaelu ei heiddo am wrthod talu'r biliau uniaith Saesneg. Dim rhyfedd iddi gael ei galw yn Rosa Parks Cymru. Ond yn eironig ddigon roedd protest Eileen wedi rhagflaenu Rosa Parks o dair blynedd ac mewn gwirionedd Rosa Parks ddylai fod wedi derbyn yr enw "Eileen Beasley" Alabama! Ond yr hyn sy'n torri fy nghalon i yw bod Rosa Parks wedi derbyn anrhydeddau lu am ei chyfraniad hi i ennill hawliau i Affro-Americaniad, tra bo Eileen Beasley ond wedi derbyn briwsion mewn cydnabyddiaeth. Ble mae'r strydoedd sydd wedi'u henwi ar ei hôl hi? Ble mae'r canolfannau cymdeithasol? Ble mae'r stampiau? Ble mae'r gwobrau? Ble mae'r llyfrau? Does dim byd o'r fath oherwydd bod brwydr Eileen yn dal i fynd yn ei blaen. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn fodlon hyd yn oed ystyried gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol; "boring, boring, boring" oedd ymateb y prif weindiog, Rhodri Morgan.


Hywel Teifi Edwards yn annerch am werth y Gymraeg

Wedi cyflwyniad Hywel Teifi Edwards fe ddaeth y siaradwyr eraill ymlaen yn eu tro: Catrin Dafydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; Ieuan Wyn Jones, Plaid Cymru; yr Arglwydd Roger Roberts, y Dem Rhyddiaid; Siwan Tomos, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth; Dilwyn Roberts-Young, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru; a Gwyneth Morus Jones, Merched y Wawr. Siaradodd pawb yn dda iawn, heblaw am Roger Roberts oedd yn ymddangos nad oedd e wedi paratoi dim ymlaen llaw. Rhaid cyfaddef pan fo ymgyrch wedi bod yn mynd yn ei blaen ers cyhyd mae'n anodd dod o hyd i lawer o bethau newydd i'w dweud. Ond roedd pawb yn pwysleisio'r cyfleoedd sy'n codi i wneud rhywbeth creadigol gyda Llywodraeth y Cynulliad yn llyncu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Pan ddaethon ni mas o'r cyfarfod fe glywson y newyddion mawr o'r byd 'go iawn'. Roedd Lloegr wedi ennill yn erbyn Paraguai o 1-0.

Rhagor o luniau o'r Wyl Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Tagiau Technorati: | .