Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-10

Bydysawd cyfochrog

Dwi ddim yn ddyn mawr am nofelau, ond mae 'na un categori dwi eithaf hoff ohonyn nhw, sef ffuglen bydysawd cyfochrog, neu yn Saesneg, 'parallel universe'. Mae'r Wikipedai yn disgrifo ffuglen bydysawd cyfochrog fel hyn, "Parallel universe or alternate reality in science fiction and fantasy is a self-contained separate reality coexisting with our own. This separate reality can range in size from a small geographic region to an entire new universe, or several universes forming a multiverse." Does dim rhaid iddyn nhw fod yn nofelau ffug wyddonol yn fy marn i. Ond y pwynt dwi am ei wneud y tro hwn yw fy mod yn aml iawn yn gweld byw fel Cymro Cymraeg ymwybodol a chenedlaetholgar yn eich gosod chi mewn bydysawd cyfochrog yn aml iawn iawn. Roedd heddiw yn ddiwrnod felly.

Tîm Paraguái

Yn y byd 'go iawn' roedd Cwpan y Byd 2006 yn mynd â sylw pawb, yn enwedig felly gêm Paraguái yn erbyn Lloegr. Yn fy myd 'go iawn' i roeddwn yn ymgyrchu dros barhad fy iaith, cenedl a'm hunaniaeth. Dwi'n teimlo fel un o frodorion de America yn aml iawn y dyddiau - pobol sydd bron wedi colli'r dydd, ond yn ddiweddar wedi gweld eu sefyllfa yn newid, fel yn achos Evo Morales. Os roedd Gŵyl Fawr deddf iaith newydd Cymmdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi'r galon, yna mae'n rhaid imi fod yn onest a dweud bod sôn am Paraguái hefyd yn codi'r galon. Efallai eu bod nhw wedi colli'r gêm bêl-droed ond mae'r ffaith bod 90% o boblogaeth y wlad yn dal i siarad iaith frodorol Guaraní yn dangos nad oes raid i bethau fod fel y mae'r mwyafrif am iddyn nhw fod bob amser.

Tagiau Technorati: | | .