Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-06-20

Gwibdaith i Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr

Glanyrafon, Llanbadarn FawrBeth yw'ch syniad chi o wibdaith ar brynhawn dydd Sul? Castell, traeth, eglwys neu fynydd? Ddydd Sul diwethaf fe wnes i ac RO a DML ailddiffinio 'gwibdaith' i gynnwys taith o gwmpas ystad ddiwydiannol. Ar ôl cinio hyfryd yn nghfarn Ty'n-llidiart, Capel Bangor, fe wnaethon ni alw heibio i Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon ar ein ffordd 'nôl i'r dref. Nid oedd tywysyddion ar gael yno i ddangos prif atyniadau'r lle i ni felly roedd yn rhaid inni helpu ein hunain. Fe welson ni ganolfan ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru, Rachel's Dairy, canolfan gwaredu sbwriel Cyngor Sir Ceredigion, gweithdy cwmni theatr Arad Goch, a llu o ffatrïoedd, swyddfeydd, siopau a busnesau eraill. Fe ddylai Adran Dwristiaeth Llywodraeth y Cynulliad hybu'r fath hyn o dwristiaeth; dim ond ychydig fisoedd yn ôl fe fues i weld Amlosgfa Aberystwyth. Pan ddaw'r cyfle buasai'n dda ymweld â llefydd a sefydliadau eraill sy'n ein gwasanaethu ond yr ydym yn cerdded heibio heb feddwl edrych arnyn nhw.

Rhagor o luniau o Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr.

Tagiau Technorati: .