Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-26

Cwpan y Byd - pwy fyddi di'n cefnogi?

Mae rownd derfynol Cwpan y Byd 2006 yn dod yn nes ac mae'n rhaid i mi gyfaddef yn fy niniwedirwydd na fuasai'n rhaid 'dewis' pwy i gefnogi. Gwylio'r gêmau i gyd a gobeithio gweld pêl-droed yn ben. Dwi'n chwerthin ar fy mhen fy hun am fy fod mor naïf. Roeddwn i'n ceisio bod yn aedfedd, yn oedolaidd, am y faith fod Lloegr wedi mynd i'r rowndiau terfynol yn yr Almaen, gan obeithio y câi rhai o'r chwaraewyr talentog gyfle i arddangos y talentau hynny ar y llwyfan rhyngwladol. Yr oeddwn yn dymuno'r un llwyddiant i Drinidad a Thobago (gwladwriaeth annibynnol ers 1962, poblogaeth o ychydig dros filwin, a phrif dref ynys Tobago yw Scarborough!), Tetä Paraguáype (gwladwriaeth annibynnol ers 1811, poblogaeth o 6.5 miliwn, ac yn swyddogol ddwyieithog mewn Sbaeneg a Guarani), a Sweden (yn wladwriaeth yn sefyll ar ei phen ei hun ers dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg wedi gadael Undeb Kalmar, poblogaeth o ryw 9 miliwn, ac yn cydnabod 5 iaith leiafrifol - ieithoedd Sami, Meänkieli, Ffineg, Iddeweg (Yiddish) a Romanieg).

Siop Gilesport, AberystwythOnd wrth ddarllen Alcoflog fe gefais agoriad llygad. Dylwn i ddim gadael i'r hyn mae rhai unigolion anghyfrifol yn ei wneud liwio fy marn nac ystumio fy emosiwn. Ond mae gweld rhywbeth fel hyn yn mynd â'r cyfan yn rhy bell. Ers i mi weld ffenest y siop dwi wedi bod yn sylwi ar arwyddion bach o'r peth ym mhobman. Yn raddol bach mae Cymru yn troi yn Lloegr-a-Chymru ar y ffordd i fod yn Lloegr-a-dyna-ni. Roeddwn i'n meddwl fy mod yn ddigon aeddfed erbyn hyn i dderbyn y peth, yn ddigon o oedolyn i sylweddoli taw dim ond gêm yw hi. Dwi'n sylweddoli bellach fy mod wedi bod yn twyllo fy hun. Mae rhywbeth llawer mwy na phêl-droed yma.

Jack McConnellDaeth hynny i'r amlwg yn gynharach yn yr wythnos pan ddywedodd prif weinidog yr Alban, Jack McConnell na fyddai'n cefnogi Lloegr yn ystod Cwpan y Byd. Ymateb Gordon Brown a Syr Menzies Campbell oedd datgan taw Lloegr fyddai'n dwerbyn eu cefnogaeth hwy. Ymateb Alex Salmond o'r SNP oedd dweud taw dros Drinidad a Thobago y byddai yntau'n gweiddi, "I don't support teams against England, but I think Trinidad and Tobago have some interesting Scottish players playing for them. That's the nearest we're getting to this year's World Cup." Yn y cyfamser mae cwmni cardiau credyd wedi anfon cynnig at ryw 7,000 o gefnogwyr Hearts of Midlothian yn cynnig crysau Lloegr iddyn nhw yn rhad ac am ddim ac yn eu cysuro eu bod defnyddio'r cerdyn yn golygu "you're directly contributing to football as a whole in England"!

BelieveMae gennym wythnosau o hyn o'n blaenau. Ydych chi'n hoffi siocled Mars, wel mae Mars wedi newid ei enw dros gyfnod Cwpan y Byd i Believe i ddangos ein bod yn ffyddiog y bydd Lloegr yn ennill y bencampwriaeth. Wrth brynu petrol rydych chi'n cael sticeri i er mwyn eich annog i gefnogi Lloegr. Mae pob papur newydd a rhaglen radio a theledu sy'n dod o Lundain a chystadleuaeth er mwyn ennill tocyn i weld Lloegr yn chwarae yn y fan a'r fan ar y dyddiad a'r dyddiad. Dwi'n dechrau teimlo'n llai aeddfed a llai oedolaidd wrth i'r diwrnodau fynd yn eu blaen. Brysied y dydd y bydd y pêl-droed yn dechrau!

Oes urnhyw un wedi gofyn i Rhodri Morgan beth fydd e'n ei wneud adeg Cwpan y Byd? Dwi ddim wedi clywed, ond rwy'n rhyw amau y bydd yn dilyn Gordon Brown ac nid Jack McConnell. Gobeithio fy mod i'n rong.

Rhagor o luniau o Siop Gilesport, Aberystwyth.

Tagiau Technorati: | | .