Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-29

"Seiniwn glod ein cyndadau..."

Beth WilliamsMae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2006 wedi cychwyn yn Rhuthun. A dwi wedi fy nghyffroi yn lân gan lwyddiant Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot, Sir Benfro. Y ffordd orau o ddisgrifio Saundersfoot o ran y Gymraeg yw dychmygu Trefynyw heb unrhyw arlliw o Gymreictod, ac mae hynny'n dod yn weddol agos at ddisgrifio pa mor Gymraeg neu Gymreig yw'r lle. Nid oes neb wedi siarad Cymraeg yn Saundersfoot ers o leia rhyw bum can mlynedd, ond yn fwy na hynny bu'r Gymraeg yn rhywbeth dieithr iddyn nhw. Dyma ardal sy'n ymfalchïo ei bod yn 'Anglia trans Wallia', Lloegr y tu hwnt i Gymru, neu Loegr Fechan. Felly mae'n rhaid imi gyfaddef pan dwi'n gweld plant o'r ardal hon yn Eisteddfod yr Urdd dwi'n neidio mewn llawenydd, mae 'na ryw lygedyn o obaith wedi'r cwbwl. Roedd perfformiad Beth Williams yn y Llefaru Unigol Blynyddoedd 3 a 4 (Dysgwyr) yn gampus. Nid dim ond ar weithgarwch unigol y bu Ysgol Saundersfoot yn llwyddiannus, fe wnaethon nhw ennill neu fynd i'r llwyfan mewn nifer o gystadlaethau eraill. Mae'n dda bod 'na rywbeth i godi'ch calon ambell waith. Diolch yn fawr Beth!

Tagiau Technorati: | | | .