"Y mwyaf hunanol ym Mhrydain", dyna sut ddisgrifiodd
George Monbiot y bobol sy'n berchen ar ddau neu fwy o dai a hynny ar ganol creisis cartrefi mewn erthygl yn
the guardian yn ddiweddar. Efallai nad oedd angen i neb ddweud hynny wrthym ni, ond mae'n dda gweld bod pobol eraill yn gweld annhegwch y sustem sy wedi golygu nad yw pobol yn medru afforddio prynu tai yn eu hardaloedd genedigol a bod hynny'n raddol bach yn tanseilio unrhyw arlliw o 'gymuned' oedd ar ôl yno. Nid am Gymru, na'r Gymru Gymraeg, y mae George Monbiot yn sôn yn bennaf ond am bentrefi a threfi bychan Lloegr. Rydym ni'n gwybod fod yr effaith ar gymunedau Cymraeg a'r diwylliant Cymreig yn gwbl ddinistriol a dwi'n teimlo braidd yn ddwl yn tynnu sylw at hyn, ond mae'n galondid i wybod nad ydym yn sefyll ar ein pennau ein hunain yn hyn. Dyma sut y mae'n dechrau ei erthygl.
What greater source of injustice could there be, than while some people have no home, others have two? Yet the vampire trade in second homes keeps growing – by 3% a year – uninhibited by government or by the conscience of the buyers. Every purchase of a second house deprives someone else of a first one. But to speak out against it is to identify yourself as a killjoy and a prig.
Mae'n werth darllen yr erthygl ar ei hyd fel y mae'n werth darllen hefyd ei erthygl ar
Evo Morales.
Tagiau Technorati:
Tai |
Cartrefi.