Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-22

Rhyddid

Digwyddodd y cwbl yn gymharol ddisylw. Un diwrnod doedd Crna Gora (neu, Montenegro) ddim yn bod, a thrannoeth roedd 'cenedl' newydd yn Ewrop. Dyna sut mae'r newyddion a'r papurau wedi bod yn adrodd hanes reffrendwm yn Crna Gora i adael conffederasiwn Serbia a Montenegro. Dim cyfeiriad yn ôl i hanes sy'n dangos taw dim ond llai na 100 mlynedd yn ôl y 'diflanodd' Crna Gora oddi ar fap Ewrop ar ôl bod yno am gannoedd o flynyddoedd. Beth sy'n ddiddorol yw sut mae'r peth yn cael ei dderbyn. Un diwrnod dim gwladwriaeth, y diwrnod nesaf mae 'na wladwriaeth newydd, ac mae bywyd Ewrop yn mynd yn ei flaen heb ryw lawer o gynnwrf. Mae'n ymddangos yn rhywbeth digon naturiol i ddigwydd. Trueni na fuasai'n dod yn rhywbeth cyffredin hefyd. Neithiwr fe wrandawais ar y gêm bêl-droed rhwng Cymru a Gwlad y Basg ar y radio a'r hyn oedd yn mynd trwy fy meddwl yn gyson oedd pam na allai'r ddwy wlad hynny symud i ryddid yr un mor ddidaro. Ond roedd yr Undeb Ewropeaidd wedi hwyluso'r ffordd i ryddid ar gyfer Crna Gora, rhwystro rhyddid yw bwriad yr un Undeb Ewropeiadd yn achos Cymru, Gwlad y Basg, Catalwnia, yr Alban, &c.

Tagiau Technorati: | | .