Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-22

Arrivederci!

D yn Ystafell De Cambria, AberystwythRoedd ddoe yn ddiwrnod digon trist. Fel arfer ddydd Sul bydda i yn cymryd cinio yn Ystafell De Cambria. Mae'r bwyd yn reit dda, ond ers rhyw naw mis yr ydym wedi cael cwmni Diletta o'r Eidal fel un o'r gweinyddesau. Dyma ichi berson rhadlon a serchog, yn barod bob amser gyda'i gwên. Roedd hi'n bleser mynd i'r bwyty gan wybod y byddai hi yno i'n croesawu. Mae gweddill y staff yn ddigon serchog hefyd, ond roedd D yn arbennig. Nawr dwi'n sôn amdani yn y gorffennol oherwydd taw ddoe oedd ei diwrnod olaf yn gweithio yn yr ystafell de. Mae'n mynd i gymryd ychydig o wyliau cyn dychwelyd i'r Eidal. Daw Diletta o Brescia ac fe ddaeth i Aberystwyth i ddysgu Saesneg! Cyn gadael mae'n mynd i sefyll ei harholiadau mewn Saesneg ac wedyn dyw hi ddim yn sŵr beth mae am wneud, er fe wnaeth hi sôn am weithio yng Nghaerdydd neu'n Llundain.

Tagiau Technorati: .