Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-20

Eurovision

lordiMae'n ffasiynol i 'fwynhau' cystadleuaeth cân Eurovision bellach. Dwi'n deall yn iawn pam gan fy mod i wedi bod yn mwynhau y gystadleuaeth ers imi fod yn ddigon hen i'w chofio. Y cof cyntaf sydd gen i yw Sandie Shaw yn ennill yn 1967 gyda'r gân 'Puppet on a string'. Roedd yn cyfuno tri o'm hoff bethau - ieithoedd, glam a ffantasi! Dros y blynyddoedd mae'r ieithoedd wedi diflannu wrth i don ddiflas o Saesneg olchi dros y gystadleuaeth. Er wrth wrando ar y gystadleuaeth heno roedd hi'n amlwg nad oedd gan nifer ohonynt unrhyw syniad o beth oedd ystyr yr hyn yr oedden nhw yn ei ganu. Fe wnaeth rhai gwledydd gadw'r faner iaith i hedfan, gan gynnwys Norwy yn annisgwyl iawn. Roedd cân Norwy yn swynol iawn - Christine Guldbransen yn canu Alvedansen (Dawns yr elffiau), ond yn mynd ar goll yng nghanol yr holl sŵn. Dwi'n credu taw fy hoff gân oedd un Croatia, sef Moja štikla yn cael ei chanu gan Severina. Roedd hi'n swnio yn gân gwbl ethnig ac yn cael ei chanu mewn Croateg, er bod cân Lithwania "We are the winners of Eurovision" yn reit ddifyr.

DanaErbyn hyn yr hyn sy'n fy nghoglais i fwyaf yw gweld cynrychiolwyr o'r hen ddwyrain comiwnyddol yn pleidleisio dros eu hoff ganeuon, megis Tirana, Kiyv, Sofia a Chisnau. A frwydrwyd mor galed gan rai er mwyn cael y rhyddid i wneud hyn? Eleni mae'n amlwg nad oedd y rhai a enillodd, Lordi o'r Ffindir, wedi cymryd y gystadleuaeth o ddifri ac eto i gyd wrth ennill roedd yn dangos eu bod wedi gwneud yn gywir beth oedd ei angen ei wneud i ennill. Pwy allai fod wedi rhagweld grŵp o'r fath yn ennill yn 1970 pan bleidleisiodd Ewrop o blaid Dana a'r gân "All kinds of everything"? Roedd pawb yn llawer mwy diniwed bryd hynny!

Wrth gwrs does byth sôn am Gymru neu am gân Gymraeg ar gystadleuaeth Eurovision. Fe wnaed cais yn ôl yn y 1960au i gael cân Gymraeg i gynrychioli Prydain, ond fe'i gwrthodwyd. Y canlyniad oedd sefydlu Cân i Gymru sy'n parhau ers hynny. Ac mae'r gystadleuaeth honno, a'i chwaer fach Cân Celtivision, wedi bod yn cadw cyfansoddwyr Cymru yn brysur. Yn ddiweddar fe gyhoeddwyd CD dwbl gyda phob un cân fuddugol arni gan gwmni Sain. Mae'r CD yn wych ac yn dwyn i gof holl hanes Cymru dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae Cymru hefyd yn lot llai diniwed. Ond cofied pawb taw Margaret Williams oedd y cyntaf i ennill.

Tagiau Technorati: .