Deryw'r gwanwyn, ni'm dorai,Ond nid yw'n bosib cadw blogiwr yn dawel am yn hir, hyd yn oed yng nghysgod Dafydd ap. Fe ddechreuodd y peth Dafydd ap Gwilym 'ma wythnos neu fwy yn gynt wrth ymweld ag Ystrad Fflur a sefyll ger yr ywen yno. Roedd hynny wedi ail-ennyn fy niddordeb yn nheulu Ieuan Llwyd o Forfa Bychan a phan gefais gyfle i fynd i Forfa Bychan roedd obsesiwn yr wythnos wedi'i selio. Troes ar unwaith at olygiad Thomas Parry o waith Dafydd ap Gwilym, ac wrth gwrs mae'r awdl i Ieuan Llwyd yn cychwyn ym mis Mai (maddeuwch fy ymdrech wantan i at aralleiriad llac iawn):
eurgoeth mwyn aur gywoeth Mai;
dechrau haf llathr a'i sathrai,
deigr a'i mag, diagr yw Mai.
Deilgyll gwyrddrisg a'm gwisgai,
da fyd ym yw dyfod Mai.
Duw ddoeth gadarn a farnai
a Mair i gynnal y Mai.
Y mae'r gwanwyn wedi darfod, 'does dim ots gen i.
Euraid a mwyn yw cyfoeth aur Mai.
Sethrir arno gan ddechrau haf gloyw,
ac y mae hynny'n peri dagrau, hardd yw Mai.
Gwisgai dail y coed cyll, gwyrdd eu rhisg amdanaf,
y mae dyfodiad Mai yn hyfryd o beth i mi.
Barnodd y Duw doeth a chadarn
a Mair o blaid cynnal Mai.
Neud Mai, neud erfai adarfeirdd traeth,Yn fanwl gywir roedd hi'n ddiwedd Ebrill pan ymwelsom ni â Morfa Bychan (roedd hi'n Fai drannoeth) ond roedd y darlun yn dal yr un. Dim ond inni anwybyddu'r ceir a'r carafannau a'r siop a'r hufain iâ, a'r twristiaid, a phopeth arall modern... roedd yna draeth ac adar a brigau newydd y gwanwyn ar y coed ac aur yr eithin ym mhob man. Dim rhyfedd i uchelwyr pwerus yr oes ddewis y lle hwn fel cartref. Does dim syniad gen i pa fath o dŷ oedd ganddo, ond pan fyddaf am gymorth i ddychmygu byddaf wastad yn troi at gyfrol ddiddorol Eind Pierce Roberts Tai uchelwyr y beridd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986. Mae allan o brint ond mae'n werth gwneud yr ymdrech i'w gael yn ail-law) a'r lluniau gan Douglas B Hague. Y tŷ cynharaf yn y gyfrol honno yw Llys Ieuan, Esgob Llanelwy, a dyna'r lle dwi'n dychmygu oedd gan Ieuan ym Morfa Bychan. Nawr dwi ddim yn siŵr am ei statws cymdeithasol, ond mae Thomas Parry yn dweud hyn amdano, "Yng nghofnodion y wladwriaeth enwir Ieuan Loid ap Ieuan Veyaf fel 'propositus' cwmwd Perfedd, sef y wlad rhwng Morfa Bychan a Genau'r Glyn, yn 1351-2." Nawr dwi ddim yn gwybod a yw'r darlun hwn yn dangos tŷ sy'n rhy dda neu ddim digon da i propositus, ond dyna beth dwi'n ei ddychmygu ym Morfa Bychan. Ond oes oedd angen dychmygu'r tŷ doedd dim angen dychmygu'r awyrgylch naturiol o gwbl gan ei bod yn debyg iawn i ddisgrifiad Dafydd ap Gwilym. I gyrraedd Morfa Bychan roedd yn rhaid mynd trwy goedwig fechan o "wŷdd wehyddiaeth" ac roedd aur yr eithin (fel dwi wedi dweud yn barod) i'w weld ar bob llaw. Roedd car RO wedi'i droi yn beiriant-teithio-trwy-amser i mi a diolch iddo am ei lywio mor saff yn ôl i 1350!
neud manwydd coedydd, wŷdd wehyddiaeth,
neud meinwedn gan edn ganiadaeth anodd,
neud mi a'i heurodd, neud mau hiraeth.
Mae'n fis Mai, mae adarfeirdd y traeth yn wych,
mae'r coedwigoedd yn llawn brigau bach, fel coed wedi'u gwau,
mae canu coeth yr adar yn uchel ac yn para'n hir,
fi sy wedi rhoi aur drosto, dyma beth yr oeddwn yn hiraethu amdano.
Rhagor o luniau o Forfa Bychan, ger Aberystwyth.
Tagiau Technorati: Mis Mai | Dafydd ap Gwilym | Gwyliau.