Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-29

Henriette Davidson Avram (1919-2006)


Yr wythnos diwethaf, 22 Ebrill, bu farw un o unigolion mwyaf dylanwadol y byd catalogio modern sef Henriette Davidson Avram. Hi fu'n gyfrifiol am ddatblygiad catalogau cyfrifiadurol mewn llyfrgelloedd gan iddynt gael eu seilio ar fformat MARC, neu MAchine Readable Catalog, a luniwyd gan Avram er mwyn amgodio gwybodaeth lyfryddol ar ffurf electronnig yn Llyfrgell y Gyngres, Washington, D.C.

Credaf fi fod catalogio yn frenhines ymhlith y gwyddorau. Trwy gatalogio da y caiff y rhai sydd mewn angen gwybodaeth o hyd i'r wybodaeth y maent ei hangen. Gellid gweld catalogio, mewn un ffordd, fel un o'r gweithredodd mwyaf dyngarol y gall rhywun ei wneud i arall.

Tagiau Technorati: .