Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-08

Cwm Einion

Physical graffitiDoedd ein taith ddim drosodd gyda'n hymweliad â Morfa Bychan, ond roedd yn rhaid inni adael y canol oesoedd a dod yn ôl i'r ugeinfed o leia wrth inni droi i gyfeiriad Cwm Einion. Mae'r cwm yn gorwedd sydd rhwng Aberystwyth a Machynlleth, ac mae wedi ennill enowgrwydd diweddar fel cartref i gyn-brif ganwr y grŵp roc Led Zeppelin, Robert Plant. Roeddwn i wedi bod yno o'r blaen, ond roedd blynyddoedd ers hynny - efallai ddim ers dyddiau coleg. Er imi rybuddio RO fod y ffordd yn gul ac yn droellog doeddwn i ddim yn cofio ei bod hi cweit mor droellog ag yr oedd hi go iawn.

Cwm EinionRoedd yn deimlad arall-fydol bron wrth adael pentref Ffwrnais ar ein holau a dechrau dringo a dringo i fyny'r ffordd serth i Gwm Einion. Doedd dim sôn am Robert Plant na Stairway to heaven, eto mewn rhyw ffordd o siarad roeddwn yn gadael y byd cas yn bell o'n holau ac yn dianc am ennyd o'i holl glindarddach tuag at rhyw baradwys o leia. Mae'r cwm yn gul a'r ffordd yn cadw'n dynn i'r ochr serth wrth ddringo hyd at y fan lle mae'r heol darmac yn dod i ben. Wnaethon ni ddim mentro llawer yn bellach na hynny. Ond yno yr unig sŵn i'w glywed oedd afon Einion a'r adar. Daeth rhyw un neu ddau o geir heibio, ond roedd popeth yn wahanol iawn i'r ffordd fawr brysur roeddem wedi'i gadael ar ôl lawr yn bell oddi tanom.

Yn amgylcheddol mae Coed Cwm Einion yn ardal gadwraeth arbennig. Dyma'r esboniad pam bod yr ardal wedi'i dynodi felly:
Coed Cwm Einion is an example of Tilio-Acerion woodland in the extreme west of the habitat’s range. This small but unusual wood extends up a steep gorge, and has a canopy with much ash Fraxinus excelsior and good representation of small-leaved lime Tilia cordata. The ground flora is diverse, and includes an exceptional Atlantic bryophyte and fern flora. Notable species include Tunbridge filmy-fern Hymenophyllum tunbrigense, hay-scented buckler-fern Dryopteris aemula, the nationally scarce liverwort Plagiochila atlantica, and the Red Data Book lichen Parmelia robusta.
Dwi ddim yn rhy siŵr y gwnes i ac RO werthfawrogi hyn'na i gyd wrth fynd heibio.

Rhagor o luniau o Gwm Einion.

Tagiau Technorati: | | .