
Dwi newydd ddod yn ôl o ogledd Lloegr lle bues i yng nghynhadledd yr undeb
Prospect yn
Scarborough. Dwi wedi bod yno rhyw ddwy neu dair gwaith o'r blaen ar yr un perwyl ac yn mwynhau'n fwy bob tro. Eleni, yn wahanol i'r arfer, fe gefais gwmni dau gydweithiwr ac felly roeddwn yn teimlo'n fwy cartrefol na'r arfer. Hefyd mae rhywun yn dod i adnabod fwy o bobl eraill ac yn dod i ddeall yn well sut mae pethau'n gweithio ac felly mae hynny'n ei gwneud hi'n haws i ymlacio. Mae gen i ddigon o hanesion i'w hadrodd ond bydd yn rhaid cael peth amser i wneud hynny. Ond mae gen i ffotograffau o'r daith sy'n adrodd yr hanes mewn ffordd o siarad.
Ffotograffau o Gynhadledd Prospect 2006 yn Scarborough.Tagiau Technorati:
Prospect |
Cynhadleddau.