Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-23

Euro Vision

Roeddwn i'n edrych ar wefan newydd sy'n caniatáu ichi gyhoeddi fideos, You Tube, pan ddes i ar draws fideo o'r grŵp Telex o Wlad Belg yn canu'r gân 'Euro Vision' yng nghystadleuaeth cân Eurovision 1980. Doeddwn i ddim wedi gweld na chlywed y gân ers imi wylio'r gystadleuaeth 'nôl yn 1980 ac eto roeddwn yn dal i gofio'r gytgan dros bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Dyna deyrnged i'r gân ei hun, y grŵp oedd yn ei chanu, ac i fy obsesiwn i gyda'r gystadleuaeth. Mae'r gân yn ddychan gwych o'r holl fyd Ewrobop fel yr oedd ar y pryd. Mae'n ddiddorol nodi taw Plethyn oedd yn canu Cân i Gymru yn 1980, sef 'Golau tan gwmwl'.


Tagiau Technorati: | .